<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:43, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet braidd yn hwyr yn y dydd ar ei benodiad i bortffolio cynhwysfawr iawn? Rwy’n siŵr y bydd yr un mor gymwys yn ymdrin â’r gwaith ag y bu yn ei swyddogaethau blaenorol. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef mewn ffordd adeiladol fel aelod UKIP ar Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Mae’r mater sy’n arwain at fy nghwestiwn yn un a ofynnwyd nifer o weithiau rwy’n siŵr, ond nid wyf yn ymddiheuro am ei ofyn eto a byddaf yn parhau i wneud hynny nes y ceir rhyw fath o ddatrysiad i’r mater. Cyfeiriaf at y rheilffordd o Lyn Ebwy i Gaerdydd, sy’n dal i fod heb gysylltiad i mewn i Gasnewydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r rhan bwysig hon o seilwaith de-ddwyrain Cymru?