Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
O’r gorau. Gan nad ydych wedi gallu rhoi ateb i mi ynglŷn â hynny, a gaf fi ddweud ei fod yn newid rhywfaint ar yr hyn rwyf am ei ddweud yn awr? Ond mae dewis arall wedi’i awgrymu yn wyneb yr anhawster o adeiladu cyfleuster troi’n ôl yng Nghasnewydd, sydd i’w weld yn faen tramgwydd mawr, ac a fydd yn gofyn am newidiadau strwythurol helaeth o dan yr amgylchiadau presennol. Y cyfaddawd arall yw y byddai’r trên yn parhau i’r Fenni, lle byddai adeiladu’r cyfleuster troi’n ôl yn llawer mwy fforddiadwy. Ni fyddai hyn ond yn galw am addasu rhai signalau ac wrth gwrs, newidiadau i’r amserlen. A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw’r strategaeth hon wedi cael ei harchwilio’n llawn?