<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:49, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am gofnodi hynny. I ddilyn y cwestiwn gan Russell George, dywedodd Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i’r astudiaeth ddichonoldeb ar y banc datblygu yn 2015, mai ei hoff ddull o weithredu oedd un sy’n pennu’n benodol strwythur trefniadol a rheolaethol gwahanol i’r un sy’n cael ei reoli gan Cyllid Cymru ar hyn o bryd, h.y. nid Cyllid Cymru. Ac eto, wrth siarad yng Nghlwb Brecwast Caerdydd yr wythnos diwethaf, dywedodd Giles Thorley, Prif Swyddog Gweithredol Cyllid Cymru, Gadewch i mi rannu cyfrinach â chi; yn ôl pob diffiniad bron, mae Cyllid Cymru eisoes yn fanc datblygu.

Gan fod hynny’n gwrthddweud adroddiad ei Lywodraeth ei hun a pholisi ei Lywodraeth ei hun yn uniongyrchol, pa hyder y gallwn ei gael, wrth ofyn i Cyllid Cymru lunio cynllun busnes ar gyfer banc datblygu y bwriadwyd iddo ei ddisodli, nad ymarfer ailfrandio drud a thrafferthus iawn yn unig yw hwn?