Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Iawn, diolch. O ran ymgysylltu, yr hyn rwy’n sôn amdano mewn gwirionedd yw cyfathrebu. Cafwyd cynhadledd ar fargeinion dinesig yr wythnos ddiwethaf, gyda dwsinau o swyddogion y Cynulliad a thros 200 o gynadleddwyr, ond un person yn unig oedd yno o fusnes bach. Felly, credaf fod angen mynd i’r afael â hynny. Felly, beth y byddwch yn ei wneud i sicrhau, yn enwedig mewn perthynas â’r fargen ddinesig, y bydd busnesau bach a chanolig yn cael eu cynnwys ac yn cael eu clywed?