Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch. Wel, fel y gwyddoch, ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y bore yma cyfeiriasoch at drydaneiddio’r brif linell, argymhellion ar gyfer metro gogledd Cymru, a buddsoddi yn yr A55. Dywedasoch hefyd fod angen cyflwyno cais cytundeb twf ar gyfer gogledd Cymru erbyn diwedd y mis. O’r hyn rwy’n ei ddeall, mae Llywodraeth y DU yn cynnig cyllid ychwanegol, ac mae gwella rheilffyrdd a signalau yn cael eu gweld fel cerrig sylfaen i drydaneiddio, a fydd yn cael ei gyflymu gan y cytundeb twf. A allwch ddweud wrthym felly pa ddeialog rydych wedi’i chael hyd yma gyda Llywodraeth y DU? Rwy’n gwybod, neu rwy’n credu, eich bod wedi bod yn trafod gyda’r Is-ysgrifennydd Gwladol i’r perwyl hwn o leiaf—i ba raddau y gallai hynny gynnwys datganoli liferi economaidd a thwf? Yn ôl yr hyn a ddeallais, roedd hynny’n rhywbeth roedd Llywodraeth y DU yn galw amdano.