<p>Datblygu Economaidd yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:57, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae twristiaeth yn sector hanfodol yn natblygiad economaidd gogledd Cymru, a chyda hynny rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i greu coridor diwylliant yr A55 sy’n cysylltu atyniadau ar draws y rhanbarth. Roedd castell y Fflint yn sicr yn atyniad mawr dros y penwythnos diwethaf, wrth i ddraig ddisgyn ar feili allanol y castell gan ddenu ymwelwyr yn eu miloedd. Roedd yn wych gweld yn union faint o bobl a aeth yno i weld y ddraig, i dynnu ambell hunlun ac ar gyfer y rhai mwy dewr yn ein plith sy’n dymuno bod yn ddofwyr dreigiau, i ddringo cefn y ddraig. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y brwdfrydedd hwnnw yn awr gyda’r buddsoddiad pellach yng ‘nghastell Shakespeare’, ond Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno â mi ynglŷn â gwerth yr economi ymwelwyr i Ddelyn ac ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, ac a fyddwch yn gweithio i barhau i fuddsoddi mewn syniadau arloesol mewn atyniadau i ymwelwyr sy’n rhoi hwb i’n cymunedau a hefyd yn denu twristiaid i ogledd-ddwyrain Cymru?