<p>Datblygu Economaidd yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 2:01, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae gan Gymru gyfle ar hyn o bryd i ddenu buddsoddiad o Loegr drwy ddarparu lle mwy ffafriol i sefydlu busnes, a fyddai’n dod â swyddi mawr eu hangen i Gymru. Rwy’n siŵr y bydd pawb yn cytuno pan ddywedaf mai gorau po fwyaf o fusnesau y gallwn eu denu yma a gorau po fwyaf o swyddi sy’n cael eu creu. Mae’r gyfundrefn ardrethi busnes presennol yn rhwystro busnesau newydd rhag cael eu creu gan ei fod yn llyffetheirio busnes â thaliad mawr ar y cychwyn, cyn i’r busnes hwnnw gael un cwsmer hyd yn oed. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynigion i gefnogi busnesau newydd a bach drwy ailstrwythuro’r drefn ardrethi busnes efallai, fel bod busnesau yn talu ar sail elw neu drosiant yn hytrach na gwerth nominal yr eiddo y maent yn ei feddiannu?