Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Hoffwn ddweud fod yr Aelod yn hollol gywir ar y mater hwn. Rwyf wedi bod yn glir gyda chyfarwyddwr cyffredinol a llywydd yr amgueddfa fod yn rhaid mynd i’r afael â chanlyniadau’r arolwg hwnnw, a fy mod yn disgwyl gweld adroddiad ar sut y maent yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y gweithlu. Rwyf hefyd wedi bod yn glir fod gweithwyr yr amgueddfa—y bobl sy’n sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau posibl—yn cael eu cynrychioli’n well ar y lefel uchaf. Mae hynny’n cynnwys cynrychiolaeth yng nghyfarfodydd byrddau ymddiriedolwyr. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol fod gweithwyr yn cael eu cynrychioli a’u clywed a’u cydnabod.