Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Byddwn, a hoffwn ddiolch i’r Aelod am grybwyll y mater pwysig hwn, ac efallai y caf ei gwahodd i ysgrifennu ataf yn ffurfiol ynglŷn â’r gwasanaeth bws o Dredegar i Aberdâr, gan y byddwn yn hoffi edrych yn fanylach arno, os caf, a chyflwyno sylwadau efallai ar ran ei hetholwyr. Bydd datganoli pellach mewn perthynas â swyddogaethau’r comisiynydd traffig dros gofrestru bysiau yn rhoi cyfle i ni ystyried newid y modd y mae gwasanaethau bws yn cael eu darparu ar draws y wlad ar gyfer y dyfodol, a sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynllunio i ateb anghenion teithwyr o ran mynediad at gyfleoedd cyflogaeth yn y gwasanaethau allweddol. Rydym hefyd yn hwyluso partneriaethau bysiau o ansawdd. Rydym yn ehangu ein gwasanaeth TrawsCymru, ac rydym yn sicrhau bod ein cyllid yn gysylltiedig yn uniongyrchol â gwella ansawdd drwy gyflwyno safonau ansawdd y flwyddyn nesaf.