<p>Denu Ymwelwyr i Gymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:15, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Canfu astudiaeth ‘Wish You Were Here’ fod twristiaeth cerddoriaeth gwyliau a chyngherddau yn cynhyrchu hyd at £113 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Bydd ein gallu i ddenu mwy o ddigwyddiadau, cynadleddau a gwyliau yn cael hwb gan y ganolfan gynadledda ryngwladol, a adeiladwyd fel prosiect ar y cyd rhwng y Celtic Manor a Llywodraeth Cymru, pan fydd yn agor yng Nghasnewydd. Bydd y ganolfan gystal ag unrhyw ganolfan gynadledda arall yn Ewrop ac fe’i cynlluniwyd i ddenu digwyddiadau mawr o bob cwr o’r byd. Mae gwyliau llai, sy’n gymysgedd o gerddoriaeth, celf, llenyddiaeth a chomedi, fel yr un yn fy etholaeth fy hun yng Nghaerllion, hefyd yn chwarae rhan bwysig. Pa gefnogaeth ac anogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i ddenu digwyddiadau mawr i Gymru gan gefnogi gwyliau llawr gwlad hefyd sy’n ychwanegu at amrywiaeth gyfoethog ein bywyd diwylliannol?