Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Wel, mae Llywodraeth y DU wedi ein sicrhau—neu, cawsom sicrwydd cyn y refferendwm—y byddai pob buddsoddiad a oedd i fod i ddod gan yr UE yn dod gan Lywodraeth y DU. Rydym yn disgwyl pob ceiniog. Rydym yn disgwyl y cedwir at bob contract a lofnodwyd neu a gytunwyd cyn y bleidlais i adael yr UE, ac rwy’n gobeithio gweld—ac rwy’n disgwyl gweld—trydaneiddio’r rheilffordd honno sy’n bwydo economi ranbarthol de Cymru ac ardal bae Abertawe.