Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Mike Hedges am gyflwyno’r ddadl fer hon ar ddiwallu anghenion tai Cymru i’r Siambr heddiw.
Mae fy ngweledigaeth ar gyfer tai yn eithaf syml: rwyf am i bobl gael mynediad at gartref gweddus, fforddiadwy sy’n gwella eu bywydau. I gyflawni hyn, rydym yn defnyddio dull cynhwysfawr, wedi’i seilio ar ffyrdd newydd ac arloesol o helpu pobl Cymru i ddiwallu eu hanghenion tai. Mae gan Mike lawer i’w gynnig yn ei gynllun 10 pwynt a byddaf yn gofyn i fy nhîm wneud yn siŵr ein bod yn nodi ei gyfraniad heddiw.
Rydym yn darparu lefelau sylweddol o fuddsoddiad drwy ein rhaglenni grant a benthyciadau newydd i gynyddu’r cyflenwad tai a safonau ar draws pob math o ddeiliadaeth. Mae angen i ni gadw ein stoc bresennol o dai fforddiadwy a rhoi’r hyder i landlordiaid cymdeithasol fuddsoddi mewn adeiladu cartrefi newydd. Mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd Bil i roi terfyn ar yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn cael ei gynnwys ym mlwyddyn gyntaf rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hon.
Gyda’r galw’n fwy na’r cyflenwad, bydd ein hargymhellion yn diogelu’r stoc tai cymdeithasol rhag erydu ymhellach ac yn caniatáu iddi dyfu. Mae’n rhwyd ddiogelwch bwysig ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu cael cartref drwy’r farchnad dai ac sy’n dibynnu ar dai cymdeithasol. Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg fod llawer o eiddo hawl i brynu blaenorol yn dod i’r sector rhentu preifat yn y pen draw, ac yn costio llawer mwy mewn budd-dal tai. Mae hwn yn straen ychwanegol ar arian cyhoeddus, pan fo cyllidebau dan bwysau sylweddol.
A gaf fi roi teyrnged i gynghorau yn barod? Mae ein cynghorau yn awr yn gallu adeiladu eto, yn dilyn gadael system y cymhorthdal cyfrif refeniw tai yn llwyddiannus. Mae hyn eisoes yn cael effaith yng Nghaerdydd, yn Abertawe ac yn Sir y Fflint—fy awdurdod fy hun—gan ragweld y byddant, gyda’i gilydd, yn adeiladu dros 800 o dai cyngor newydd.
Ar hyn o bryd mae’r awdurdodau hyn yn talu am ddatblygu tai cyngor newydd o’u hadnoddau eu hunain. Fodd bynnag, rydym bellach yn datblygu ail gam ein grant cyllid tai, a gynlluniwyd er mwyn i gynghorau yn ogystal â chymdeithasau tai wneud defnydd ohono. Mae gwaith paratoi ar gyfer yr ail gam hwn yn mynd rhagddo’n dda. Ein bwriad yw y bydd yn weithredol o 2017.
Ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn, rydym wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, a bydd gan dai cymdeithasol rôl allweddol i’w chwarae yn diwallu hyn. Er mwyn atgyfnerthu’r agenda hon ac i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU, rydym wedi rhyddhau £68 miliwn ar gyfer grantiau tai cymdeithasol yn 2016-17.
Rydym wedi ymrwymo i arloesi mwy ym maes tai ac mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o fentrau tai cydweithredol newydd, dan arweiniad cymdeithasau tai ledled Cymru. Gwrandewais ar gyfraniad Jeremy a Mike a nodais eu hangerdd i ni fynd ar drywydd cynlluniau mwy cydweithredol ar draws Cymru. Erbyn hyn ceir 10 o gynlluniau cydweithredol arloesol sydd yn y broses o ddarparu tai cydweithredol yng Nghymru—nid ar y raddfa a nododd yr Aelod o gwmpas Vancouver a rhannau eraill o’r byd, ond rydym yn dechrau ar y daith ac mae gan y rhain botensial i greu cymunedau wedi’u grymuso’n well, o gymharu â’r cytundeb landlord-tenant traddodiadol.
Bydd tai’r farchnad agored, wrth gwrs, yn chwarae rhan hanfodol yn diwallu anghenion amrywiol am gartrefi ac yn darparu atebion fforddiadwy. Felly, rydym wedi gwneud cynnydd calonogol yn adeiladu mwy o gartrefi dros y pum mlynedd diwethaf. Ond nid wyf yn bychanu’r her o barhau’r duedd honno dros y pum mlynedd nesaf. I ddarparu cymorth pellach i’r rhai sy’n dymuno bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, rydym wedi cyflwyno ail gam Cymorth i Brynu—Cymru a bydd hwn yn buddsoddi £290 miliwn ychwanegol hyd at 2021, gan gefnogi’r gwaith o adeiladu hyd at 6,000 o gartrefi newydd a gwneud perchentyaeth yn gyraeddadwy i’r miloedd o deuluoedd sy’n dymuno i hynny ddigwydd. Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn darparu sylfeini cadarn, ond bydd angen i ni wneud mwy.
Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar yr angen i leihau nifer yr eiddo gwag. Mae angen i ni adeiladu ar lwyddiant gwirioneddol dod â thros 7,500 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf, ac mae hyn i raddau helaeth yn deillio o gyflwyno cynllun benthyciadau arloesol Troi Tai’n Gartrefi. Ond rwyf hefyd yn hapus i gydnabod effaith symbylol y rhaglen yn cefnogi gweithredu lleol mewn ardaloedd lleol. Mae’r cydweithio a welsom ar eiddo gwag yn enghraifft wych o’r gwaith partneriaeth rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, a dylai hynny fod yn uchelgais i ni wrth symud ymlaen.
Ddirprwy Lywydd, rydym wedi cael llwyddiant mawr, a chafodd hynny ei gydnabod gan Mike Hedges a chyd-Aelodau heddiw yn yr hyn rydym wedi ei gyflawni yn ystod tymor diwethaf y llywodraeth, ond bydd yr heriau sy’n ein hwynebu yn dilyn yr ymgyrch i adael yr UE yn creu heriau ariannol mwy sylweddol i’r Llywodraeth a’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r sectorau ar lawr gwlad. Ond mae’n rhaid i ni barhau i ddod o hyd i ffyrdd o annog mwy o dai ar gyfer y bobl y mae Mike Hedges a llawer yn y Siambr hon yn eu cynrychioli, er mwyn dod o hyd i gartrefi fforddiadwy, diogel a chynnes ar gyfer y bobl yn ein cymunedau. Gobeithio ein bod wedi darparu rhywfaint o gyfle yn ystod y ddadl hon i esbonio’r hyn y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud, ond eto rwy’n cydnabod y cyfleoedd gwych y mae Mike Hedges wedi eu cyflwyno i ni y prynhawn yma. Byddwn yn parhau i ystyried y rhai a wnaed yn ystod ei gyfraniad. Diolch yn fawr i chi. Diolch.