<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:29, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae recriwtio a chadw meddygon mewn gofal sylfaenol ac eilaidd wedi’i ddisgrifio gan lawer, gan gynnwys llawer o’r colegau brenhinol, fel bom yn tician. Mewn gofal sylfaenol, mae gennym y broblem ddeuol o fethu â recriwtio digon o feddygon teulu ac oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio, nifer cynyddol o feddygon teulu yn ymddeol. Dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wrthyf fod angen i ni recriwtio 400 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn, ac eto, y llynedd, recriwtiwyd llai na 140 gennym. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau ein bod yn hyfforddi mwy o feddygon teulu yng Nghymru?