<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:31, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai y gallwn symud ymlaen at gadw meddygon. Mae cynnydd aruthrol mewn llwyth gwaith a’r straen o reoli mewn system ofal sylfaenol wedi’i gorlwytho wedi cael y bai gan lawer o feddygon teulu fel y rheswm dros eu penderfyniad i symud dramor neu i ymddeol o ymarfer cyffredinol yn gyfan gwbl. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau llwyth gwaith ein meddygon teulu er mwyn sicrhau nad ydynt yn gorweithio ac i sicrhau y gallwn gadw ein meddygon teulu?