Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, sy’n amserol. Mae’n rhan o’n sgwrs barhaus ynghylch y mathau o gymhellion a ddarparwn i bobl: felly, y gefnogaeth ychwanegol rydym yn ei ddarparu i bobl mewn hyfforddiant, a’r hyn y gallwn ei ddisgwyl yn ôl wedyn. Felly, mae hynny’n rhan o’r gwaith rydym yn ei ddatblygu gyda’r rhanddeiliaid hynny i ddeall a fyddai’r math hwnnw o drefniant bondio yn llwyddo i gadw meddygon yma yng Nghymru. Ond rhan o’r ateb yn unig sy’n rhaid iddo fod, oherwydd rydym am wneud Cymru yn lle gwirioneddol atyniadol i fyw a gweithio a hyfforddi ynddo. Felly, mae hyn yn rhan o’r sgwrs rydym yn ei chael ynglŷn â phroffil hyfforddiant i wneud yn siŵr fod cyfleoedd hyfforddi meddygon teulu yn rhan lawer mwy o’r hyn y mae meddygon yn ei gael cyn iddynt ddewis eu harbenigedd. Felly, mae yna ystod eang o fesurau gwahanol rydym wrthi’n eu hystyried gyda’n partneriaid, ac rwy’n disgwyl y bydd gennyf fwy i’w ddweud am hyn yn y misoedd nesaf.