<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:37, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

A byddwn yn annog yr Ysgrifennydd i edrych ar y cyfleoedd go iawn a fyddai ar gael i ni o ddilyn llwybr Cymreig. Yn bendant, gall gwneud pethau’n wahanol, fel rydym wedi’i weld gyda meddygon iau, olygu gwneud pethau’n well. Rwy’n credu ei bod yn eithaf amlwg fod Cymru yn mynd i fod angen mwy o feddygon a mwy o nyrsys, mwy o therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion—gallwch enwi unrhyw beth—dros yr ychydig ddegawdau nesaf. Yn wir, rwy’n amau ​​a oes yna broffesiwn yn y GIG na fydd angen mwy o staff. Rydym wedi clywed am feddygon teulu, ac os nad yw’n 400, beth ydyw? 300, 200, 100—dywedwch chi: rydych yn rhoi targed rydych am anelu ato. Ond rydym wedi bod yn galw am gynllunio’r gweithlu’n briodol ers nifer o flynyddoedd ac nid oes gennym gynllun gweithlu cenedlaethol o hyd. A fydd yna gynllun sy’n ystyried y materion rwyf wedi’u crybwyll yma, a pha bryd y gallwn ddisgwyl ei weld?