Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch, Lywydd. Rwy’n credu mai dyma fy nghyfle cyntaf i’ch llongyfarch ar eich swydd; rwy’n gwybod ei bod yn ddiwrnod olaf y tymor, bron iawn.
Chwe blynedd yn ôl, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban y gronfa seibiant byr i ddarparu seibiant i ofalwyr a gofal amgen i’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Addawodd y Blaid Lafur yn ei maniffesto ‘Iach ac Egnïol’ y byddai yn:
‘Ymchwilio i fuddion sefydlu cynllun seibiant cenedlaethol i ofalwyr yng Nghymru’.
Y buddion fyddai 60,000 awr o ofal amgen am ychydig dros £1 filiwn, gyda’r holl arbedion cysylltiedig i bwrs y wlad o ran derbyniadau i’r ysbyty, cyffuriau, ymyriadau iechyd meddwl a hyd yn oed diweithdra. A allwch ddweud wrthym pa bryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun o’r fath yma?