Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Nid wyf yn hollol siŵr a ddywedwyd y byddai cronfa’n cael ei chyflwyno o ganlyniad i’r strategaeth gofalwyr, ond byddaf yn cadw llygad ac yn gobeithio’r gorau ynglŷn â hynny am y tro.
Gan symud ymlaen, ychydig o newyddion da o Ysbyty Tywysoges Cymru yn fy rhanbarth ac yn wir, o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd: fel mater o drefn, maent yn awr yn mabwysiadu ymagwedd o synnwyr cyffredin tuag at rôl gofalwyr wrth ymgynghori, trin a rhannu gwybodaeth am gleifion â dementia. Nid wyf yn credu ei bod hi’n iawn fod gofyn fel mater o drefn i ofalwyr ddarparu copïau o ddogfennau atwrneiaeth cyn y gellir rhoi gwybodaeth hanfodol i ofalwr pan fo’n amlwg nad oes gan y claf ei hun alluedd meddyliol i ddeall yr hyn a ddywedir wrthynt. A allwch roi syniad o’r dadleuon y byddwch yn eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â hawliau a chyfrifoldebau gofalwyr y bydd angen eu cynnwys yn y strategaeth dementia newydd?