<p>Gwasanaethau GIG yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:48, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn cael mynediad at y GIG drwy ofal sylfaenol. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wella mynediad at ofal sylfaenol, gan weithio gyda chlystyrau. Bydd hyn yn cynnwys mentrau newydd megis gwella gwasanaethau fferyllfeydd a gwasanaethau sy’n seiliedig ar ffisiotherapi a therapïau eraill hefyd. Wrth gwrs, byddwn yn cynnal ein hymrwymiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel yn ein hysbytai hefyd.