Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn cytuno bod rhoi mynediad cyflymach i gleifion at y gwasanaeth neu’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael eu trin cyn gynted â phosibl? Felly, pa gamau sy’n cael eu rhoi ar waith yng ngogledd Cymru i sicrhau bod gan gleifion y dewis i gael eu trin gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cywir, gan gefnogi ein meddygon teulu ar yr un pryd?