<p>Gwasanaethau GIG yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:52, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn—rwy’n ymwybodol o’r mater, sy’n amlwg yn un difrifol. Mae gennym drefniadau comisiynu priodol ar gyfer gofal lle mae angen i fabanod deithio, ond mae’r teithio ychwanegol posibl yn fater sydd angen i ni ei ystyried, a sut rydym yn cefnogi teuluoedd. Rwy’n awyddus i wneud yn siŵr fod gennym sicrwydd ynghylch safon y gofal a ddarperir o ran y gofal y mae angen i ni ei gomisiynu, lle bydd angen i bobl ddefnyddio gwasanaethau dros y ffin, yn naturiol, mewn gwahanol rannau o Gymru, ond hefyd fod ein teuluoedd yn cael cefnogaeth pan fydd angen iddynt fynd dros y ffin i gael y gofal arbenigol hwn, a hefyd, o ran y gofal arbennig a ddarparwn yng Nghymru, ein bod yn sicrhau ein hunain ynglŷn ag ansawdd a chynaliadwyedd y gofal hwnnw hefyd. Felly, mae hynny’n golygu bod gennym ddewisiadau anodd o ran canolbwyntio’r gofal arbenigol hwn yn briodol, a sicrhau bod pobl yn cael mynediad o safon uchel at y gofal gorau, yn hytrach na dim ond sicrhau ein bod yn darparu llawer o wasanaethau gwahanol nad ydynt yn gynaliadwy ac nad ydynt yn darparu gofal o’r ansawdd iawn y credaf fod teuluoedd a babanod yn ei haeddu.