Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y byddwch yn gwybod, mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn gweithio gyda chlinigwyr a grwpiau cleifion i ddatblygu gwell llwybr gofal i gleifion mewn gwasanaethau pediatrig yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin erbyn diwedd y flwyddyn. Ar ymweliad diweddar â Llwynhelyg a Glangwili, cefais wybod am y ddibyniaeth ar feddygon o’r tu allan i’r DU er mwyn sicrhau ein bod yn gallu llenwi’r rotas mewn pediatreg yn arbennig. Rwy’n sicr y byddwch yn cytuno nad yw’r awgrym nad yw’r gofal a ddarperir yn ddiogel yn helpu i ddenu meddygon. Ers y bleidlais i adael yr UE, mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi ysgrifennu at staff meddygol o’r tu allan i’r DU yn sgil y cynnydd mewn achosion o gasineb hiliol ar draws y DU. Rwyf wedi helpu i lansio ymgyrch i annog cleifion i wneud ymdrech ychwanegol i ddiolch i’r meddygon hynny sydd wedi dod i Gymru i’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw. A wnewch chi ymuno â mi i estyn croeso a sicrhau na fydd gwasanaethau’r GIG yn cael eu heffeithio’n andwyol gan y bleidlais i adael yr UE, ac y bydd y meddygon hynny sydd yma i’n helpu yn teimlo bod croeso go iawn iddynt yma?