<p>Gwasanaethau Pediatrig yng Ngorllewin Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:03, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae yna brinder pediatregwyr cymunedol ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Un o’r meysydd yr effeithir arno’n ddifrifol gan hyn yw darpariaeth cymorth a diagnosis i bobl ifanc a phlant ag awtistiaeth. Er bod amseroedd aros wedi lleihau, rydym yn dal i weld rhai pobl yn aros am ddwy i bedair blynedd i gael diagnosis o awtistiaeth. Nid oes angen i mi ddweud wrthych mai gorau po gyntaf y caiff y bobl ifanc hyn y diagnosis er mwyn i’w cyfleoedd bywyd fod cystal ag y gallant fod. Yn sicr, dyna yw ein nod ar eu cyfer. Nawr, mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn gwneud eu gorau, fel y maent yn fy sicrhau’n gyson; hoffwn wybod beth rydych yn ei wneud i fonitro bwrdd iechyd Hywel Dda, a’r holl fyrddau iechyd mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddigonol ac i weld beth y gallwn ei wneud i ddenu rhai o’r clinigwyr gwerthfawr hyn i’n gwlad.