<p>Hyfforddi Meddygon yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:05, 13 Gorffennaf 2016

Diolch yn fawr iawn. Mae bron i hanner holl ddoctoriaid Pen Llŷn dros 55 mlwydd oed, ac mae disgwyl i nifer helaeth ohonyn nhw ymddeol o fewn y pum mlynedd nesaf, fydd yn arwain at argyfwng gwirioneddol. Mae yna dystiolaeth fod doctoriaid yn aros lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi. Felly, er mwyn mynd i’r afael â diffyg doctoriaid, mae yna ddadl gref, fel yr ydych wedi cyfeirio ato fo, dros gael cynllun Cymru-gyfan a hirdymor i gynyddu llefydd hyfforddi meddygon. Ond, yn ogystal â hynny, mae yna ddadl gref dros greu ysgol feddygol newydd ym Mangor fel ein bod ni’n ehangu’r ddarpariaeth ar draws Cymru, ac yn y gogledd yn benodol. Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno yn y Siambr yma yn ddiweddar bod angen ystyried creu cynllun busnes ar gyfer ysgol feddygol i’r gogledd, ac yn wir, mae llawer o gefnogaeth gan randdeiliaid o fewn y sector iechyd ac addysg uwch er mwyn i hyn ddigwydd, ac mae yna gyfle penodol i greu ysgol a allai arbenigo mewn darparu gwasanaethau meddygol i ardaloedd gwledig. Felly, Ysgrifennydd Cabinet iechyd, a wnewch chi ymrwymo heddiw y byddwch chi’n cymryd rhan lawn a chanolog yn y broses o greu ysgol feddygol ym Mangor?