Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Rwy’n siomedig yn Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl buddsoddi cymaint o obaith rai wythnosau yn ôl—[Torri ar draws.]—pan groesewais ef i’w swydd ddyrchafedig. Mynegais y gobaith y byddai economi Cymru yn gwisgo’i hesgidiau sglefrio o dan ei arweinyddiaeth. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]. Bwm, bwm. Yn anffodus, ymddengys ei fod wedi prysuro ei gwymp yn lle hynny, o ganlyniad i’r ymagwedd negyddol a diddychymyg a amlygwyd gan y datganiad hwn heddiw.
Nid wyf yn meddwl y bydd yn rhoi teimlad braf i lawer o bobl ym Merthyr Tudful, Glynebwy, a threfi o’r fath wybod y byddant yn cael Alun Davies a thasglu gweinidogol yn hytrach na Cylchffordd Cymru. Faint o swyddi y mae hynny’n mynd i’w creu? Byddai’r cynnig hwn yn creu 1,500 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, a hyd at 6,000 o swyddi yn y dyfodol, pe bai’r safle’n cael ei ddatblygu’n llawn. Mae’n bwysig yn fy marn i—ac rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau hyn—na ofynnwyd i Lywodraeth Cymru gyfrannu ceiniog o fuddsoddiad pellach yn y prosiect hwn, a bod y cyfan yn cael ei ariannu gan y sector preifat, gyda budd gwarantau sector cyhoeddus.
Mae hwn yn brosiect gwerth £380 miliwn, felly dyna gynnig datblygu anferth; mae £240 miliwn ohono’n cael ei roi gan Aviva, ac mae’n debyg ein bod i gyd, ar ryw ystyr, yn dechnegol yn fuddsoddwyr ynddo, gan eu bod yn buddsoddi cyfraniadau’r gronfa bensiwn y cyfrannwn iddi yn y Siambr hon. Ac o hwnnw, £190 miliwn yn unig y gofynnwyd amdano fel gwarant gan Lywodraeth Cymru. Felly, dyna 50 y cant o gyllid y prosiect. Ac yn gyfnewid am hynny, talwyd ffi fasnachol—neu argymhellir ei thalu—o £3 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru. Bydd y warant honno’n cael ei sicrhau ar asedau’r prosiect, wedi iddynt gael eu creu. Ni fydd unrhyw warant o gwbl yn y cyfnod adeiladu. Felly, bydd y warant hon o 50 y cant yn cael ei sicrhau ar 100 y cant o’r asedau, a’r unig beth y gofynnir amdano felly yw rhwymedigaeth amodol eilaidd a ddaw i rym yn unig ar sail flynyddol os yw enillion y prosiect, ar ôl ei gwblhau, yn annigonol i dalu elfen warantedig cyllid Aviva ar gyfer y flwyddyn benodol. Felly, nid oes unrhyw risg y cyflwynir bil annisgwyl o £190 miliwn i Lywodraeth Cymru mewn unrhyw un flwyddyn yn y dyfodol.
Disgwylir i effaith economaidd y cynllun hwn fod yn werth rhwng £35 miliwn a £50 miliwn y flwyddyn, mewn ardal sydd ar hyn o bryd dan anfantais fawr yn economaidd. Canlyneb hynny, o safbwynt y risg y gofynnir i Lywodraeth Cymru ei hysgwyddo, yw gwarant a fyddai, yn yr enghraifft fwyaf eithafol, rywle oddeutu £8.5 miliwn y flwyddyn yn unig. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod honno’n fargen eithaf da i bobl Cymru, yn gyffredinol, i economi Cymru? Ac rwy’n gobeithio y bydd yn dangos ychydig mwy o ddychymyg yn y dyfodol, gan fod y Llywodraeth yn dda iawn am greu strategaethau datblygu economaidd, ond o ran creu datblygu economaidd, maent yn fethiant llwyr.