Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Rwyf am ymdrin â rhan fach o’r prosiect hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac er gwaethaf y sefyllfa rydych wedi ei hamlinellu, ac o ystyried eich bod wedi dangos bod y drws bob amser ar agor, rwy’n dal i ystyried ei bod yn siomedig iawn felly nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynnig eu cefnogaeth i’r prosiect mawreddog hwn, yn enwedig gan ei fod yn bendant yn eu dalgylch ar gyfer swyddi, ac yn y blaen. A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw wybodaeth ynglŷn â pham nad ydynt wedi cymryd rhan?