Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch. Rwy’n falch o agor y ddadl hon heddiw. Cychwynasom y ddadl hon ochr yn ochr ag Aelodau eraill o’r Cynulliad ar sail drawsbleidiol yng nghyd-destun proses adnewyddu siarter y BBC, i geisio rhoi pwysigrwydd ein perthynas gyda’r BBC ar yr agenda yn nhymor gwleidyddol newydd y Cynulliad, a dangos iddynt nad ydym yn mynd i ddiflannu ac y byddwn yn craffu nid yn unig arnynt hwy ond ar bob darpariaeth ddarlledu a’r cyfryngau yma yng Nghymru yn y dyfodol agos.
Wrth ymchwilio ar gyfer y ddadl hon, roedd yn ddiddorol mynd yn ôl dros beth o’r allbwn y mae BBC Cymru wedi ei ddarparu i’r wlad hon ar hyd y blynyddoedd. Bydd rhai ohonoch yn gwybod, er bod BBC Cymru wedi ei sefydlu yn gyntaf yn 1964, mewn gwirionedd, roedd y darllediad cyntaf yng Nghymru yn llawer cynharach, yn 1923, gan orsaf radio o’r enw 5WA, a aeth ymlaen i fod yn rhan o drefn raglennu BBC. Byddai rhai o’r rhaglenni a welsom yn sicr yn dân ar y croen heddiw gyda’n gwerthoedd modern. Pan fyddwn yn dweud bod rhywbeth yn ‘perthyn i gyfnod’, gall hefyd olygu bod gennym gofnod byw o sut yr oedd pobl yn meddwl, yn siarad ac yn gweithredu mewn ffordd arbennig mewn cyfnod penodol yng Nghymru yn y gorffennol. Ond dyna sydd wrth wraidd y ddadl heddiw—fod gan BBC Cymru rôl hanfodol i’w chwarae yn adlewyrchu bywydau, dyheadau a heriau pobl Cymru heddiw. Yn ein barn ni, mae gan BBC Cymru ran allweddol i’w chwarae yn sicrhau bod hynny’n parhau, a rhaid iddo chwarae’r rhan honno.
Nid oes fawr o amheuaeth fod BBC Cymru wedi encilio o’r rôl hon, nid yn unig yn y cyfnod diweddar, ond dros flynyddoedd lawer. Cyaddefodd Tony Hall gymaint â hynny mewn araith a roddodd tua dwy flynedd yn ôl bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Y rheswm pennaf y daeth y cynnig hwn i olau dydd oedd er mwyn i ni fel Aelodau’r Cynulliad fynegi ein rhwystredigaeth ynghylch y diffyg gweithredu yn y cyfamser i fynd i’r afael â sylwadau’r cyfarwyddwr cyffredinol. Yn wir, daeth i un o bwyllgorau’r Cynulliad diwethaf a dywedodd bron yr un peth ag y gwnaeth ddwy flynedd yn ôl—oes, mae yna ddiffyg portreadu ac rydym yn mynd i ddatrys y broblem. Wel, fy neges heddiw yw bod angen i chi ddangos eich bod yn mynd i wneud hynny yn awr. Nid oes dim o hyn yn bychanu beth y mae BBC Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni ddweud hynny. Mae peth o’i waith yn ystod y 10 mlynedd diwethaf—’Sherlock’,’Life on Mars’,’Ashes to Ashes’,’Being Human’—wedi bod yn llwyddiannus. Ond nid ydynt yn ymwneud â Chymru, yn y bôn, ac nid ydynt wedi eu gosod yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod hyn o wylio ‘Doctor Who’. Wrth gwrs, ni ellid disgwyl i raglen sy’n cynnwys estron sy’n gallu teithio drwy amser fel ei chymeriad canolog gael ei chyfyngu i’r ochr hon i Glawdd Offa. Ond sawl gwaith rydym wedi eistedd o’i blaen gan fwmian, ‘Nid Llundain yw’r fan honno ond y Rhath’?
Rwy’n meddwl bod uwch-reolwyr BBC Cymru yn gwneud yr hyn a allant, ond mae’r broblem ar ben arall yr M4 mewn gwirionedd. Gwelsom hynny yr wythnos diwethaf, rwy’n meddwl, pan gyhoeddodd y BBC na fyddai Cymru yn cael llais ar fwrdd y BBC heblaw drwy gyfarwyddwr y gwledydd a’r rhanbarthau. Dyna oedd eu trefn o’r blaen, ac maent wedi ei newid yn ôl i’r drefn honno. Byddwn yn cwestiynu a yw hyn yn gam i lastwreiddio ein dylanwad ar y BBC ac a ddylem gael gyfarwyddwr anweithredol o Gymru, gan fod penodiad cyhoeddus yn rhywbeth y mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi ei grybwyll yn ddiweddar iawn yn yr adroddiad a gawsom fel Aelodau’r Cynulliad heddiw. Fel Cadeirydd pwyllgor newydd y pwyllgor cyfathrebu—pwyllgor ag iddo ddannedd, gobeithio—rydym eisoes wedi ysgrifennu at y BBC i ofyn iddynt am fanylion ynglŷn â’r penodiad a pham eu bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw heb unrhyw ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad neu Aelodau Seneddol neu’r Llywodraethau, naill ai ar lefel y DU, yn ôl yr hyn a ddeallaf, neu ar lefel Llywodraeth Cymru hefyd.
Felly, ai gwahanolrwydd BBC Cymru sydd dan sylw fan hyn? A’r cwestiwn, yn dilyn ymlaen o hynny, yw: beth y gallwn ei wneud am hyn yma yng Nghymru? Rhaid i atebolrwydd fod yn allwedd i hyn oll. Fel gyda’n sefydliad ni, fel gyda sefydliadau ac elusennau anllywodraethol eraill, maent yn derbyn arian cyhoeddus, ac felly dylid eu gorfodi i esbonio eu penderfyniadau gan fapio eu canlyniadau posibl. Ddoe, wrth i adolygiad blynyddol diwethaf Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC gael ei gyhoeddi, dywedodd Elan Closs Stephens, ymddiriedolwr cenedlaethol y BBC dros Gymru, a Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, a dyfynnaf, 'Mae yna heriau sylweddol o’n blaenau, ac un o’r rhain yw sicrhau bod nifer lawer uwch o’n straeon yn cael eu clywed a’u gweld ar ein sgriniau yng Nghymru, ar draws y DU a thu hwnt. Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol, rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth ar gyfer cyfnod nesaf y siarter.'
Mae rôl y BBC ym mywyd y genedl yn hollbwysig, ac felly nid yw ond yn iawn ac yn briodol ein bod yn ystyried ei waith yn feirniadol wrth ei amddiffyn yn frwd. Nawr, mae’n rhaid i ni fod yn benderfynol ac yn feiddgar yn ein gweledigaeth ar gyfer ei rôl yn gwasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, wrth gwrs, fel Aelodau Cynulliad, dylem groesawu’r sylwadau hyn fel datganiad o fwriad gan BBC Cymru, ond nid yw geiriau’n ddigon; mae angen i ni weld gweithredu ganddynt yn awr. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd, edrychaf ymlaen at wahodd yr ymddiriedolwr cenedlaethol a chyfarwyddwr Cymru y BBC i gyfarfod ag Aelodau’r Cynulliad a rhoi rhywfaint o gig ar esgyrn yr hyn y maent wedi’i ddweud. Pan ddaethant i’n gweld yn flaenorol, fe ddywedasant y byddent yn hoffi monitro canlyniadau a sut y gellir dadansoddi ac asesu’r portread, ac edrychaf ymlaen at eu holi ynglŷn â hynny yn y dyfodol.
Felly, mae angen i ni ofyn: sut y bydd y BBC yn mynd i’r afael â’r dasg newydd? A yw’n mynd i wneud ei hun yn fwy atebol i’w gynulleidfaoedd ac i’r Cynulliad hwn? Beth fyddant yn ei wneud drwy’r siarter newydd? Sut y bydd yn sefydlu ei drefniadau llywodraethu newydd? Sut y bydd yn mesur eu canlyniadau? A yw’n nod ganddo i ymateb i farn a phryderon ei gynulleidfaoedd mewn ffordd real a sylfaenol? A sut y bydd BBC Cymru yn sicrhau bod ei gynulleidfa yn cael eu diogelu rhag unrhyw benderfyniadau anffafriol posibl yn Llundain?
Yr wythnos hon mae Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC yn dweud, ac rwy’n dyfynnu:
‘dylai fod yn ofynnol i’r BBC adrodd i’r cyhoedd yng Nghymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn flynyddol ar y ffordd y mae ei holl wasanaethau, o ran y Rhwydwaith a BBC Cymru wedi bodloni Dibenion Cyhoeddus y BBC yng Nghymru yn ystod y flwyddyn flaenorol.’
Mae hyn yn rhywbeth rwyf i ac ACau eraill wedi galw amdano dro ar ôl tro ers amser mawr, ac rwy’n siŵr y byddwn yn gwneud hynny yn y dyfodol. Felly, rwy’n gobeithio gweld ffocws newydd gan reolwyr BBC Cymru ac y bydd hyn yn arwain at arloesi newydd.
Awgrymwyd wrthyf y dylai fod rhywbeth fel ‘The One Show’ ar gyfer Cymru, o bosibl, neu efallai y gallai gyfateb yn Saesneg i ‘Golwg 360’, gan fod ‘Golwg 360’ wedi rhoi newyddion arbennig ac unigryw am Gymru i ni drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallai’r ddau awgrym gynyddu cyfranogiad y gynulleidfa ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i BBC Cymru wella’i berfformiad. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl bod ffafrio papurau newydd Llundain yng Nghymru yn hytrach na chyfryngau cynhenid o gryfder amheus wedi chwarae rhan yng nghanlyniad refferendwm. Canlyniad hynny, fel y gallwn weld, yw bod pawb a’n harweiniodd i’r llanast hwn wedi gadael y llong sy’n suddo i’r gweddill ohonom lenwi’r tyllau, cael gwared ar y dŵr a dal ati i hwylio.