6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Y BBC yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:54, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Ar y pwynt y mae hi’n ei wneud am y berthynas rhwng y wasg a’r BBC, mae’n gwybod bod y BBC wedi dweud, fel rhan o broses y siarter, fod ganddynt ddiddordeb mewn cefnogi’r wasg ar lefel leol drwy rannu newyddiaduraeth, rhannu straeon ac yn y blaen. A yw hynny’n rhywbeth y mae hi wedi edrych arno gyda—? Mae’n ddyddiau cynnar ar y pwyllgor newydd, rwy’n gwybod, ond a yw hynny’n rhywbeth sydd o ddiddordeb i’r pwyllgor neu o ddiddordeb yn ehangach, ac a oes ganddi unrhyw sylwadau ar sut y gellid symud hynny yn ei flaen yn awr, yn enwedig o ystyried y ffaith ein bod yn colli newyddiadurwyr o’r lle hwn, er enghraifft, sy’n rhoi sylw i wleidyddiaeth yng Nghymru?