Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n credu ein bod wedi mwynhau dadl gyfoethog iawn y prynhawn yma, gan drafod nid yn unig y BBC ei hun, ond hefyd y cyfraniad y mae’n ei wneud i fywyd cyhoeddus a’i gyfraniad at ddiwylliant Cymru a’r Deyrnas Unedig. Dylwn ddechrau fy sylwadau drwy groesawu Bethan i’w rôl fel Cadeirydd y pwyllgor. Rydych yn sicr yn llwyddo lle y methais i. Rwy’n cefnogi’n fawr iawn—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] Rwyf am orffen y frawddeg. Rwy’n croesawu’n fawr y newyddion fod y Cynulliad yn mynd i greu pwyllgor—pwyllgor parhaol ar yr achlysur hwn—a fydd yn edrych ar y materion hyn. Rwy’n credu ei fod yn beth amserol iawn i’w wneud, ac rwy’n credu y daw’n bwysig iawn yn fuan, ac yn bwyllgor a fydd yn siarad ag awdurdod, nid yn unig ar ran y lle hwn ond ar ran pobl Cymru yn ogystal. Rwy’n meddwl bod y llais a glywsom y prynhawn yma o bob ochr i’r Siambr—ac mae’n dda gweld cefnogaeth unfrydol i’r materion hyn ar bob ochr i’r Siambr—yn cael ei glywed yn gryfach o ganlyniad i’r Cynulliad ei hun yn cael y gallu i wneud y penderfyniadau hyn. Felly, mae’n rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn ei groesawu’n fawr iawn, a hefyd y ffordd feddylgar y mae’r Aelodau wedi strwythuro eu cyfraniadau.
A gaf fi dweud, yn anad dim, ei bod hi’n bwysig fod y BBC yn cydnabod, os yw am gyflawni addewidion y mae’n eu gwneud—ac rwy’n meddwl bod Lee Waters wedi egluro nifer o addewidion a glywais i ac eraill dros nifer o flynyddoedd—mae’n rhaid iddo gael strwythur a fydd yn cyflawni’r addewidion hynny? Mae hynny’n golygu strwythurau rheoli, llywodraethu ac atebolrwydd sy’n sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed. Rwy’n rhannu pryderon yr Aelodau am y newidiadau strwythurol diweddar i fwrdd rheoli’r BBC—y bwrdd gweithredol—ac rwy’n edrych ymlaen at weld y BBC yn egluro sut y bydd yn cryfhau llais Cymru, sut y bydd hwnnw’n sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed pan fydd yr holl benderfyniadau yn cael eu gwneud, a sut y bydd hwnnw’n sicrhau bod Cymru yn rhan o’r holl benderfyniadau a wneir gan fwrdd gweithredol y BBC. Byddaf yn disgwyl i’r BBC, wrth roi’r esboniad hwn i ni, sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed bob amser lle bynnag y gwneir y penderfyniadau hyn.
Mae’r pwyntiau sydd wedi’u gwneud gan wahanol Aelodau ar adegau gwahanol i gyd yn ymwneud â diwylliant o fewn y BBC—a chredaf fod Rhun ap Iorwerth wedi esbonio hyn yn dda—lle y ceir rhagfarn fetropolitanaidd o ran penderfyniadau rheoli ac o ran y meddwl a’r diwylliant sy’n sail i’r penderfyniadau hynny, sydd wedi gwreiddio, nid yn anghenion y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ond ym meddyliau cyfforddus a rhagfarnau, weithiau, y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau hynny. Mae hynny’n rhywbeth sydd angen ei herio. Gallaf sicrhau’r holl Aelodau nad proses adnewyddu’r siarter yn unig y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan ynddi; mae hefyd yn ceisio sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed mewn perthynas â’r penderfyniadau hynny.
Rwyf am ymateb i’r ddadl y prynhawn yma drwy edrych ar rai o’r materion y mae Aelodau wedi’u crybwyll. Gadewch i mi yn gyntaf oll ddechrau gyda’r cyllid a’r adnoddau. Mae’n hollol gywir ein bod wedi gweld buddsoddiad y BBC yng Nghymru yn lleihau ar adeg pan fo’i fuddsoddiad yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr allweddol wedi cynyddu. Mae hyn yn annerbyniol, ac mae’n annerbyniol, nid yn unig fod y penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud, mae’n annerbyniol fod y strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd wedi galluogi a chaniatáu i’r penderfyniadau hynny gael eu gwneud, a’r hyn rydym ei angen yn y dyfodol yw strwythurau atebolrwydd na fydd yn caniatáu i’r sefyllfa hon ddigwydd eto. Mae’n glir iawn fod angen i’r BBC fuddsoddi cyllid ychwanegol yn y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer Cymru, a chytunaf yn llwyr â’r pwyntiau a wnaeth Lee Waters. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn derbyn llythyrau pellach neu glywed areithiau pellach heb ymrwymiad i adnoddau ychwanegol i ddarparu’r gwasanaethau y mae’r BBC eu hunain wedi dweud bod Cymru eu hangen ac yn eu haeddu, ac edrychaf ymlaen at glywed cynigion y BBC ar hynny.
A phan siaradwn am adnoddau a chyllid, rydym yn sôn am adnoddau net a chyllid net. Nid oes gennym ddiddordeb mewn rhoi adnoddau ag un llaw, a chael gwybod ein bod yn mynd i gael yr arian ychwanegol hwn i wneud rhaglenni ychwanegol, i ddarparu gwasanaethau ychwanegol, a chael gwybod wedyn ar y llaw arall fod arbedion effeithlonrwydd yn golygu na fydd hanner yr adnoddau hynny’n cyrraedd y BBC yng Nghymru mewn gwirionedd. Felly, rydym yn chwilio am ymrwymiad go iawn, ac nid ymrwymiad sy’n gwneud y tro mewn datganiad i’r wasg, a byddwn yn sicrhau bod hynny’n digwydd. Ac ar yr un pryd, rydym wedi clywed droeon fod yr Arglwydd Hall wedi gwneud ymrwymiadau i wella’r modd y mae BBC Cymru yn portreadu Cymru ar deledu rhwydwaith ac i sicrhau bod gennym raglenni’n cael eu gwneud yma yng Nghymru fel y byddem yn ei ragweld ac yn ei ddisgwyl.
Gadewch i mi ddweud hyn hefyd: gwyddom fod newidiadau’n cael eu gwneud i’r ffordd y mae’r BBC yn strwythuro stiwdios ac is-adrannau gwneud rhaglenni. Materion y mae’n gywir ac yn briodol i’r BBC ymdrin â hwy yw’r rheini. Fodd bynnag, mae’n iawn ac yn briodol ein bod hefyd yn dwyn y BBC i gyfrif wrth sicrhau nad yw hynny’n arwain at wneud llai o raglenni ar gyfer y rhwydwaith o Gymru ac nad yw’n arwain at leihau cyfleusterau stiwdio yng Nghymru. Mater i reolwyr y BBC yw sut y maent yn strwythuro a sut y maent yn rheoli’r sefydliad, ac mae’n iawn ac yn briodol i’r rheolwyr gael yr awdurdod i wneud hynny, ond mae angen i ni wneud yn siŵr fod strwythurau’r BBC yn sicrhau bod ei ymrwymiadau yn cael eu cyflawni ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Ac wrth wneud hynny, cyfeiriaf eto at sylwadau Rhun ap Iorwerth am lefelau’r awdurdod a ddarperir i gyfarwyddwr BBC Cymru. Mae’n gwbl hanfodol fod gan gyfarwyddwr BBC Cymru y lefelau o bŵer a chyfrifoldeb ar gyfer darparu gwasanaeth cydlynol ar draws yr holl wahanol wasanaethau sydd ar gael gan y BBC yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu lefelau awdurdod dros holl amserlennu a chynhyrchu a chomisiynu rhaglenni. Mae hynny’n sicr yn rhywbeth y byddaf i a llawer o bobl eraill rwy’n credu, yn chwilio amdano.
O ran atebolrwydd, cytunaf â’r hyn sydd wedi’i ddweud gan yr Aelodau y prynhawn yma, y dylai atebolrwydd y BBC orffwys yma yn y Cynulliad Cenedlaethol ac nid yn y Llywodraeth yn unig. Rwy’n hen ffasiwn, weithiau, ac rwy’n credu bod darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn wahanol i ddarlledwr y wladwriaeth ac y dylai darlledwr gwasanaeth cyhoeddus fod yn atebol i’r lle hwn, i’r corff seneddol, ac nid yn syml i’r Llywodraeth ac i Weinidog. Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd Julie Morgan ynglŷn â phenodi aelodau bwrdd unedol y BBC, a byddwn yn sicr am weld hynny’n cael ei gymeradwyo mewn rhyw ffordd neu ei wneud drwy broses gyhoeddus drwy’r lle hwn, ac nid yn syml drwy’r Llywodraeth a phenderfyniadau a wneir gan Weinidogion.
Mewn perthynas ag i ble yr awn o’r fan hon—ac rwy’n ymwybodol fod amser yn symud ymlaen, Lywydd—cyfarfûm â Rhodri Talfan Davies ddoe i drafod y datblygiadau diweddaraf o ran ailstrwythuro’r BBC ac adnewyddu’r siarter. Hefyd cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr S4C yr wythnos diwethaf i drafod y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â’r siarter a’r adolygiad sydd ar y gweill o S4C, sydd i ddod yn 2017. Gallaf sicrhau’r Aelodau y byddwn yn parhau i ymgysylltu’n llawn â phob un o’r prosesau hyn.
Mae fy swyddogion wedi parhau i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a gweinyddiaethau datganoledig eraill i drafod adolygiad y siarter, a bydd y cyfarfodydd hyn yn parhau dros yr haf. Gallaf ddweud bod yna gynnydd cadarnhaol wedi bod ar nifer o faterion, ond rydym yn dal i fod yn ymwybodol fod yna bwyntiau i’w datrys. Rwy’n gobeithio cyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yr wythnos nesaf i drafod darlledu. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gynharach gyda thrawsgrifiad o’r datganiad llafar a wneuthum yma rai wythnosau yn ôl a chyfraniadau dilynol yr Aelodau. Rwyf wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y cytundeb trawsbleidiol yn y Cynulliad ar y rhan fwyaf o faterion darlledu, a gallaf sicrhau’r Aelodau, yn fy nghyfarfod yr wythnos nesaf, byddaf hefyd yn ystyried y pwyntiau a nododd yr Aelodau yma heddiw.
O ystyried digwyddiadau yn San Steffan ar hyn o bryd, rydym yn ansicr a fydd Llywodraeth y DU mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â chyhoeddi siarter ddrafft cyn toriad yr haf, ond hyd yn oed os nad yw, byddem yn disgwyl bod siarter ddrafft yn cael ei chyhoeddi’n gyflym iawn ar ôl i’r Senedd ddychwelyd yn yr hydref. Byddaf yn ceisio trefnu dadl yma yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Medi i roi cyfle i’r holl Aelodau gael trafodaeth fanylach ar gynnwys y siarter ddrafft. Rwy’n gobeithio y gallaf dawelu meddyliau’r Aelodau y byddaf yn parhau i ymwneud yn llawn â’r materion hyn, a hynny o ran y dadleuon a’r trafodaethau gyda’r BBC ei hun, a hefyd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon er mwyn sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed ar bob adeg.
Edrychaf ymlaen at waith y pwyllgor sy’n cael ei sefydlu yma. Edrychaf ymlaen at waith y pwyllgor yn siarad ar ran y Cynulliad Cenedlaethol ac yn siarad dros Gymru. Gobeithiaf y bydd y consensws sydd gennym yn y Siambr heddiw ar yr holl faterion hyn yn un a fydd yn aros gyda ni wrth i ni fynd drwy’r cyfnod hwn o adnewyddu’r siarter. Diolch yn fawr iawn.