Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle i gloi’r ddadl gyfoethog a phwysig hon, fel y dywedodd y Gweinidog. Rhan o’r rheswm pam y mae mor bwysig, fel yr amlinellodd Bethan Jenkins yn ei sylwadau agoriadol, yw’r gwerth a roddwn ar y BBC fel ased, ased cenedlaethol, i ni yma yng Nghymru ac ar draws y DU yn gyffredinol. Cyfeiriodd Jenny Rathbone at gryfder brand y BBC, a chredaf fod hynny’n dod gyda set o werthoedd y byddem i gyd yn dymuno eu cymeradwyo yma yn y Siambr hon rwy’n siŵr.
Rwy’n falch o fod yn aelod o’r pwyllgor a gallaf gadarnhau fod Bethan Jenkins wedi ei gadeirio mewn ffordd anunbeniaethol iawn, fel y dywedoch, hyd yn hyn. Felly, edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach yn rhan o’r pwyllgor hwnnw.
Mae’r ddadl yn mynd i galon ein hymdeimlad ohonom ein hunain fel cenedl a sut y gwelwn ein hunain wedi ei adlewyrchu yn ôl arnom yn y cyfryngau. Dyna reswm arall pam y mae mor bwysig. Hefyd, ceir mater effaith economaidd y BBC yng Nghymru. Siaradodd Rhianon Passmore am y buddsoddiadau eiddo yng Nghymru, sy’n sylweddol, a siaradodd Russell George am raddfa cynhyrchu ar gyfer y rhwydwaith yng Nghymru, ond nid yw’r un o’r rhain yn ateb yr her rydym yn ceisio mynd i’r afael â hi yn y ddadl hon heddiw. Yr her honno yw’r cwestiwn o fuddsoddi mewn rhaglenni sy’n adlewyrchu Cymru yn ôl arnom.
Siaradodd Rhianon am y diffyg o £30 miliwn y flwyddyn y mae’r Prif Weinidog wedi ei nodi, ac o ran maint, mae’n werth cofio bod bwrdd gweithredol y BBC yn 2013 wedi diystyru costau prosiect yr oedd yn cydnabod ei fod wedi gwastraffu £98 miliwn dros gyfnod o dair blynedd, sydd, yn daclus iawn, yn cyfateb yn fras i’r hyn y gallai rhaglenni Saesneg yng Nghymru wneud defnydd ohono a dweud y gwir. Fel y nododd Lee Waters, mae hynny o ganlyniad i dorri chwarter y gyllideb yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Siaradodd Lee, Bethan a llawer o siaradwyr am yr hyn sy’n fwlch gwirioneddol ddiflas rhwng yr iaith y mae’r BBC yn barod i’w addef ar hyn a realiti’r bwlch yn y cyllid. Ac rwy’n ategu’r hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â pheidio â bod eisiau derbyn rhagor o lythyrau sy’n cydnabod maint y bwlch heb awgrymu ateb iddo.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod angen cyllidebau go iawn arnoch i wneud rhaglenni go iawn, sy’n mynd â ni o ddifrif at gwestiwn y cymysgedd genres, sy’n dioddef o ganlyniad i’r diffyg buddsoddiad hwn. Mae newyddion yn dda ac yn boblogaidd, ond hefyd rydym angen rhaglenni drama, comedi, adloniant a diwylliant, nad yw’r setliad presennol yn caniatáu digon ohonynt fel y dywedodd Lee. Siaradodd Jenny Rathbone am werthoedd Reithaidd rhaglenni dogfen sy’n benodol i Gymru, a fy ffefryn o’r holl sylwadau yn y maes hwn oedd cyfeiriad Rhianon Passmore at un o fy etholwyr, Max Boyce. Rwy’n siŵr y bydd wedi ei blesio’n fawr wrth glywed y sylwadau hynny.
Daw hyn â ni yn ôl at gwestiwn, nid yn unig amrywiaeth a gwerth am arian, ond cynrychiolaeth a phwyntiau cyfeirio at ddiwylliant Cymru a sut y caiff ein persbectif ei gynrychioli, rwy’n tybio, ar y teledu. Siaradodd Russell George am bwysigrwydd sicrhau bod teledu’n adlewyrchu amrywiaeth y Gymru fodern. Soniodd nifer o’r siaradwyr am y pryder fod y BBC yn encilio rhag y rôl i’n cynrychioli, nid yn unig i ni ein hunain, ond i’r byd, y tu hwnt i’r DU, sy’n agwedd bwysig iawn o’r ddadl hon.
Rhoddodd Julie Morgan ac eraill hyn yng nghyd-destun y cyfryngau print cyfyngedig sydd gennym yng Nghymru, ac mae hynny’n tanlinellu pwysigrwydd gwasanaeth rhaglennu Saesneg ffyniannus wedi ei ariannu’n dda. Cwestiwn daearyddiaeth a chynrychiolaeth ddaearyddol: siaradodd Hannah Blythyn am y profiad ar garreg y drws yn Nelyn a phryderon pobl fod y sylw wedi gogwyddo’n ormodol tuag at Gaerdydd. I’r rhai ohonom sy’n byw y tu allan i Gaerdydd, mae hwnnw’n sylw cyfarwydd. Fe gyfeirioch at y ddyletswydd ddemocrataidd i sicrhau cydbwysedd daearyddol yn ogystal â chydbwysedd gwleidyddol. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn y Siambr hon yn anghytuno â hynny.
Canolbwyntiodd llawer o siaradwyr ar gwestiwn atebolrwydd a llywodraethu, sydd wrth wraidd y ddadl hon. Ychydig iawn sydd gan Bapur Gwyn y Llywodraeth i’w ddweud mewn gwirionedd, fel y nododd y Gweinidog, am atebolrwydd i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Soniodd llawer o siaradwyr am gyfraniad y Sefydliad Materion Cymreig heddiw gan fynd i’r afael â’r pwynt hwnnw’n benodol.
Mae mwy nag un siaradwr wedi gresynu at y ffaith nad yw’r tîm gweithredol bellach yn cynnwys cyfarwyddwyr y cenhedloedd unigol, a galwodd Bethan Jenkins a Lee Waters yn arbennig am lais cryf i Gymru ar fwrdd y BBC, wedi ei benodi’n annibynnol ar y Llywodraeth.
Mae’r cwestiwn ynglŷn â’n rôl yma fel Cynulliad wedi cael ei amlygu gan lawer o siaradwyr a siaradodd Bethan Jenkins am y gobaith ac yn wir, rwy’n meddwl, y disgwyliad y byddai’r pwyllgor yn cael cyfle i graffu a holi swyddogion gweithredol BBC, mae’n siŵr, mewn perthynas â rhai o’r ymrwymiadau sydd wedi’u gwneud. Rwy'n croesawu hefyd eich cyfeiriad at gwestiwn annibynniaeth S4C a bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn y siarter hefyd.
Rwy’n gobeithio fy mod wedi gwneud cyfiawnder â’r ystod o gyfraniadau a wnaed heddiw. I orffen, mae’r nifer sy’n gwylio BBC One yn arbennig yn uwch yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU, ac mae cyfran uwch o bobl yn gwylio’r bwletin newyddion min nos yn arbennig yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU. Felly, ‘mae Cymru wrth ei bodd gyda’r BBC’ yw’r neges rwy’n ei chael o hynny. Nid yw’n ymddangos yn iawn felly mai’r hyn a geir yn ymateb i’r hoffter hwnnw yw gwasanaeth sydd, fel y mae’r BBC ei hun yn cyfaddef, wedi ei danariannu yn anghynaladwy ac yng ngeiriau Cyngor Cynulleidfa Cymru, wedi dod â BBC Cymru i ymyl y dibyn. Diolch yn fawr.