7. 7. Dadl Plaid Cymru: Y DU yn Tynnu Allan o'r Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 4:48, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Simon Thomas ac rwy’n hapus i gefnogi’r gwelliant, gwelliant 1, yn enw Jane Hutt.

Daw ein cynnig heddiw wrth i Theresa May ddod yn Brif Weinidog newydd y DU. Mae wedi dweud ei bod yn bwriadu gweithredu’r bwriad i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd gadael yr UE yn digwydd ar ôl cyfnod hir o drafodaethau, gyda materion megis mynediad i’r farchnad sengl, mewnfudo a statws dinasyddion yr UE a’r DU i gyd yn galw am eu trafod. Dywedodd y Prif Weinidog ymadawol y gallai Cymru chwarae rhan yn y trafodaethau hyn. Mae’n hanfodol, felly, ein bod ni, fel Cymru—Cymru gyfan—yn cyflwyno’r achos dros gadw cymaint â phosibl o’r manteision rydym yn eu hennill ar hyd o bryd o fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd Plaid Cymru yn gwneud beth bynnag a allwn i ddylanwadu ar safbwynt negodi Cymru, i ymladd yn ddiedifar dros Gymru, ac i sefyll dros fuddiannau cenedlaethol Cymru bob amser.

Yn rhannol, roedd canlyniad y refferendwm yn gynnyrch yr anghydraddoldebau sydd wedi cronni dros sawl degawd. Y DU sydd â’r anghydraddoldeb rhanbarthol mwyaf o holl aelod-wladwriaethau presennol yr UE. Mae Brwsel wedi dod yn fwch dihangol i ddicter a rhwystredigaeth, lle mae rhannau cyfan o gymdeithas yn teimlo fel pe baent wedi colli rheolaeth ar eu bywydau. Ymddengys nad yw pleidleisio yn cyflawni dim mewn system y cyntaf i’r felin a phan gaiff pobl eu hethol i’r sefydliad hwn, er enghraifft, nid oes ganddo’r pwerau sydd eu hangen arnom i ddatrys yr holl broblemau y mae ein pobl yn eu hwynebu.

Mae gennyf lawer o gydymdeimlad â’r canfyddiad fod llawer yn ein cymunedau yn teimlo’n ddi-rym ac wedi eu hanwybyddu. Dywedodd y Prif Weinidog ymadawol, David Cameron, heddiw ei fod yn gobeithio y byddai pobl yn gweld ei fod wedi gadael ar ei ôl, yn ei eiriau ef, gwlad gryfach... a mwy o gyfleoedd i gamu ymlaen mewn bywyd.

Ond mae hynny’n ffug, onid yw? Nid gwlad yw’r Deyrnas Unedig ond gwladwriaeth, ac mae cyfanrwydd y wladwriaeth honno wedi cael ei wanhau gan ganlyniad y refferendwm. Nawr, gallai’r DU golli rhan sylweddol o’i thiriogaeth a gallai beidio â bodoli. O ran cael mwy o gyfleoedd i gamu ymlaen mewn bywyd, mae yna ardaloedd yn y wlad hon, yng Nghymru, lle mae cyfleoedd gwaith gwell ar gael, ond mae yna hefyd ardaloedd lle y ceir ymdeimlad o ddirywiad hir ac esgeulustod er bod yr ardaloedd hynny, mewn llawer o achosion, wedi bod yn gymwys sawl gwaith ar gyfer cymorth datblygu economaidd yr UE.