Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
I fynd â chi’n ôl at y pwynt a wnaethoch funud yn ôl ar gymhorthdal ffermio, a fyddai’n cytuno â mi nad pwynt dadl yn syml yw hyn, mae’n rheidrwydd cystadleuol yn y cyfnod pontio hwn wrth symud ymlaen, nid yn unig yn y trafodaethau gadael ond ar ôl hynny, ac ni allwn gael ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig o dan anfantais gystadleuol mewn perthynas â’r hyn sy’n digwydd dros Glawdd Offa yn Lloegr? Felly, rhaid i ni gael yr arian hwnnw wedi’i warantu, ac mae’n rhaid i ni ei gael yma i wneud y dewisiadau ynglŷn â sut i’w ddefnyddio yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru.