Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch. Rydym yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi can mlynedd ers brwydrau’r Somme, Coed Mametz a Jutland, yn rhoi teyrnged i’r rhai a ymladdodd yn y brwydrau hyn a brwydrau eraill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac ers hynny, ac yn anrhydeddu’r cof am y rhai a gollodd eu bywydau a’r rhai a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwrthdrawiadau arfog eraill.
Ar 7 Gorffennaf 1916, gorchmynnwyd troedfilwyr o’r 38ain Adran (Gymreig), a gynhwysai lowyr o’r Rhondda, ffermwyr o Gaernarfon ac Ynys Môn, storwyr glo o’r dociau yn y Barri a Chaerdydd, gweithwyr banc o Abertawe, a dynion o lu o gefndiroedd a galwedigaethau eraill o siroedd Cymru, i ymosod ar reng flaen yr Almaenwyr o flaen coedwig, tua milltir o hyd yn fras, ger pentref bach Mametz, tua 20 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Amiens, gwta wythnos wedi diwrnod cyntaf trychinebus brwydr y Somme, pan laddwyd dros 19,000 o ddynion. Cerddodd y milwyr Cymreig yn syth at ynnau peiriant y milwyr proffesiynol Almaenig ymgloddedig ar ymyl y goedwig. ‘Agorwyd gatiau uffern wrth i’r gynnau peiriant saethu atom o’r tu blaen ac o’r ystlys. Nid oedd gennym obaith ac roedd y bechgyn yn cwympo ym mhob man, ond fe ddaliom ati i symud yn ein blaenau,’ ysgrifennodd Preifat Albert Evans o 16eg (Dinas Caerdydd) Bataliwn y Gatrawd Gymreig. Yng ngeiriau milwr arall o Gymru: ‘Ni all uffern fod yn llawer gwaeth.’ Lladdwyd 400 ar ddiwrnod cyntaf y frwydr a barodd am bum diwrnod. Erbyn ei diwedd, yn dilyn ymladd wyneb yn wyneb ffyrnig a dryslyd yn y goedwig, cafodd 4,000 o ddynion eu lladd neu eu hanafu. Byddwn yn eu cofio, fel y mae’n rhaid i ni gofio eu cymheiriaid heddiw.
Mae gan y DU ddyletswydd i ofalu am ei lluoedd arfog. Dechreuodd hyn fel cytundeb nas llefarwyd rhwng y gymdeithas a’r lluoedd arfog, yn tarddu yn ôl cyn belled â theyrnasiad Harri VIII o bosibl. Cafodd y cytundeb ei godeiddio’n ffurfiol fel cyfamod yn 2000. Nid oedd yn gyfraith, ond cafodd ei atgyfnerthu gan arfer a chonfensiwn. Mae cyfamod y lluoedd arfog yn cyfeirio at y rhwymedigaethau ar y naill ochr a’r llall rhwng y gwledydd a’u lluoedd arfog. Mae’n nodi pa fesurau diogelu, gwobrau ac iawndal y gall personél milwrol ei ddisgwyl yn gyfnewid am wasanaeth milwrol a’r risgiau a’r caledi a all fod ynghlwm wrth hynny. Mae egwyddorion y cyfamod wedi eu hymgorffori yn y gyfraith gan Ddeddf Lluoedd Arfog 2011. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi sefydlu cyfamod cymunedol y lluoedd arfog, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ethol aelod i fod yn hyrwyddwr lluoedd arfog. Ond mae angen mwy.
Rydym yn gresynu at welliant Llywodraeth Cymru yn datgan na fydd ond yn ystyried y gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru a gynigir gennyf pan ddylai Llywodraeth Cymru, fel y mae ein cynnig yn ei ddatgan, ddarparu hyn yn ystod pumed tymor y Cynulliad. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wrando ar gymuned lluoedd arfog Cymru a chefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynodd Llywodraeth yr Alban Gomisiynydd Cyn-filwyr yr Alban yn 2014. Mae sefydlu comisiynydd lluoedd arfog ar gyfer Cymru yn hanfodol er mwyn cefnogi anghenion penodol cyn-filwyr a chyflwyno’r rhain i Lywodraeth Cymru, ac i graffu’n briodol ar wasanaethau i gyn-filwyr a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac awdurdodau lleol. Drwy ymrwymo i gyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog, byddai’r comisiynydd hefyd yn ymgysylltu â’r gymuned a hyrwyddo’r prosiectau trydydd sector allweddol niferus sy’n cefnogi cyn-filwyr, er mwyn gallu eu cyflwyno’n genedlaethol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Yn y cyd-destun hwn, rhaid i ni gydnabod cyllid Libor cyfamod y lluoedd arfog Llywodraeth y DU i wasanaethau cyn-filwyr Newid Cam CAIS Cymru, sy’n gweithio ledled Cymru gan roi cefnogaeth gan gymheiriaid wedi’i deilwra i gyn-filwyr ac ymyrraeth arbenigol. Ar ôl siarad yn 2013 wrth lansio Newid Cam, rwy’n cymeradwyo ei ddatblygiad ers hynny a’i chwaer brosiect, Listen In, sy’n cefnogi’r rôl a chwaraeir gan deuluoedd a chyfeillion cyn-filwyr yn hyrwyddo adferiad o broblemau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol. Mae’n rhaid i ni hefyd groesawu cyllid Libor i Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf i gefnogi Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr—Alabaré.
Er bod croeso i wasanaeth disgownt a cherdyn lluoedd arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy’n darparu gostyngiad ar eitemau yn amrywio o deganau plant i ffonau symudol, mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi ymgyrchu ers amser maith dros gael cynllun cerdyn cyn-filwyr yng Nghymru. Byddai hyn yn darparu teithiau bws am ddim, mynediad â blaenoriaeth at driniaethau GIG ac addasiadau sydd eu hangen yn y cartref yn sgil anaf neu salwch a gafwyd wrth wasanaethu, yn ogystal â mynediad am ddim i ganolfannau hamdden a safleoedd Cadw. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r mater hwn o’r neilltu ers 2014, pan sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen ar gerdyn adnabod i gyn-filwyr. Galwn felly ar Lywodraeth newydd Cymru i ddechrau gweithio ar unwaith ar y cerdyn cyn-filwyr.
Mae’n rhaid i ni gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr er mwyn gwella ei gapasiti a’i allu i helpu cyn-filwyr sydd mewn angen ac arbed arian yn y pen draw hefyd mewn gwirionedd. Ym mis Ebrill, ymwelais ag etholwr sy’n byw mewn eiddo Cartrefi Cymru i Gyn-filwyr a oedd wedi cael diagnosis ar ôl cael ei ryddhau o’r fyddin o anhwylder straen wedi trawma cronig a chymhleth yn ymwneud â’i wasanaeth. Roedd wedi ceisio cyflawni hunanladdiad ym mis Mawrth ar ôl i sawl ymdrech i sicrhau ymyrraeth briodol ar ran GIG Cymru fethu dro ar ôl tro. Yn dilyn fy ymyriad, addawodd ei dîm iechyd meddwl cymunedol y byddai’n gweld cydgysylltydd gofal o fewn pedair wythnos. Fodd bynnag, pan ofynnwyd i mi ymweld ag ef eto ddau fis yn ddiweddarach, nid oedd wedi clywed dim. Pan aeth Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr ar drywydd y mater, dywedwyd wrthynt fod y bwrdd iechyd wedi colli chwe aelod o staff a’u bod yn y broses o gael staff yn eu lle.
Dywedodd y staff yn Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr hefyd fod person arall a oedd yn cael cymorth ganddynt wedi bod yn aros ers pedwar mis ers cael ei asesu gan therapydd seicolegol GIG Cymru i Gyn-filwyr, a oedd erbyn hynny’n absennol oherwydd salwch. Roeddent hefyd yn dweud wrthyf fod GIG Cymru i Gyn-filwyr yn darparu ymateb cychwynnol da i atgyfeiriadau, ond mewn gwirionedd roeddent yn dweud mai cyfarfod asesu cyflym yw hwn, a bod y claf wedyn yn ôl ar y rhestr aros os oes angen ymyrraeth seicolegol.
Er bod 10,000 amcangyfrifiedig o gyn-aelodau’r lluoedd arfog yng Nghymru yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma cymhleth yn sgil gwasanaeth milwrol—4 y cant i 5 y cant o boblogaeth cyn-aelodau’r lluoedd arfog yng Nghymru—sefydlodd cais rhyddid gwybodaeth, o 158 o gyn-filwyr a atgyfeiriwyd at y gwasanaeth yn 2012-13, dim ond 100 a gafodd eu trin dros gyfnod o 12 mis, dim ond 24 o ffurflenni adborth defnyddwyr gwasanaeth a gwblhawyd, a dim ond 39 o gyn-filwyr a gafodd eu rhyddhau wedi triniaeth. Mewn cyferbyniad, dywedodd ateb ysgrifenedig diweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd fod yna 329 o atgyfeiriadau yn yr un cyfnod a 529 yn 2015-16, ond ychwanegodd fod hyn yn cynnwys data wedi’i allosod. Cadarnhaodd ateb ysgrifenedig arall gan Ysgrifennydd y Cabinet bythefnos yn ôl nad yw Llywodraeth Cymru yn cadw ffigur ar gyfer cyn-filwyr sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma yng Nghymru.
Fel y dywedodd Dr Neil Kitchiner, prif glinigydd GIG Cymru i Gyn-filwyr, wrth y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid, a gadeirir gan Darren Millar, y llynedd—ar ôl i ni ymgyrchu’n llwyddiannus yn erbyn toriad arfaethedig Llywodraeth Cymru o £100,000 yn flynyddol—dywedodd wrthym, neu wrth y grŵp, na fu unrhyw gynnydd yn y cyllid ers 2010 er gwaethaf llwyth gwaith cynyddol y gwasanaeth bob blwyddyn, fod cyllid Cymru yn is na gwasanaethau GIG eraill y DU, er mai dyma’r unig wasanaeth cenedlaethol ar gyfer cyn-filwyr yn y DU, ac yn hytrach nag ychwanegiad o £100,000, byddai cynyddu eu cyllideb flynyddol o £485,000 i £1 filiwn yn eu helpu i gyrraedd canllawiau targed Llywodraeth Cymru ac egwyddorion gofal iechyd darbodus. Dywedodd wrthym hefyd fod yr arian cyfatebol yn yr Alban yn £2.5 miliwn.
Mae’n glir o fy sylwadau hyd yn hyn a’r dystiolaeth sydd ar gael ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwella prosesau casglu data er mwyn sefydlu anghenion iechyd cyn-filwyr; canfod y cymorth sydd ei angen ar eu teuluoedd a’u gofalwyr; llywio darpariaeth gwasanaethau a chomisiynu; a thynnu sylw at yr ymgysylltu sydd ei angen â phobl yn y lluoedd arfog, sy’n gwasanaethu a/neu wrth iddynt drosglwyddo i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Mewn gwirionedd, dyma’n union yr oedd Adroddiad ‘Call to Mind: Wales’, a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Forces in Mind ac yn seiliedig ar gyfweliadau gyda chyn-filwyr a’u teuluoedd a phobl sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol ac annibynnol, yn galw amdano y mis diwethaf. Mae’r adroddiad hefyd yn galw am gynyddu capasiti GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan nodi bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru. Pwysleisir yr angen am wella prosesau casglu data ymhellach gan ymgyrch ‘Count them in’ y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy’n galw am gynnwys cwestiynau ar gymuned y lluoedd arfog yng nghyfrifiad nesaf y DU. Fel y maent yn dweud:
Amcangyfrifir bod rhwng 6.5 a 6.7 miliwn o aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn byw yn y DU ar hyn o bryd, sef oddeutu un rhan o ddeg o’r boblogaeth, ond ychydig a wyddys am union nifer, lleoliad ac anghenion y grŵp sylweddol hwn. Yn wir, gallai fod hyd at 0.25 miliwn o gyn-filwyr yng Nghymru ond heb y data hwn, ni allwn gynllunio ar gyfer y capasiti sydd ei angen ar GIG Cymru, comisiynu’r gwasanaethau ehangach sy’n angenrheidiol, na darparu’r cymorth y mae teuluoedd a gofalwyr yn dibynnu arno, ac ni allwn gyflawni’r addewid a wnaed gan gyfamod y lluoedd arfog y bydd y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Cymeradwyaf y cynnig hwn yn unol â hynny.