Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw i ni gael cyfle i ddadlau a thrafod y mater pwysig hwn.
Pan fyddwn yn nodi canmlwyddiant brwydrau’r Somme, Coed Mametz a Jutland, cofiwn sut y collodd miloedd o ddynion eu bywydau. Mae’n hawdd anghofio, o ystyried y niferoedd enfawr, fod pob rhif yn y cyfrif o’r meirw yn unigolyn a adawodd ei deulu a’i gymuned ar ôl i fynd i ymladd a marw mewn amgylchiadau annirnadwy.
I’r rhai a fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r rhai sydd wedi ymladd ym mhob rhyfel ers hynny, rydym wedi cyfamodi â hwy y byddai cymdeithas yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt os a phan fyddant yn dychwelyd. Mae hynny’n golygu sicrhau bod gofal iechyd meddwl digonol ar gael a bod cymorth iddynt allu dod o hyd i dai a chyflogaeth. Mae’n golygu sicrhau bod eu teuluoedd a’u plant yn cael eu cefnogi, fod y rhai sydd wedi cael eu hanafu—yn enwedig y rhai sydd wedi dioddef anafiadau sy’n newid eu bywydau—yn cael gofal iechyd o’r safon uchaf sy’n bosibl.
Hefyd, dylai ein cofio gynnwys etifeddiaeth falch Cymru o ymdrechu i ddatrys gwrthdaro a cheisio dewisiadau eraill yn lle rhyfel. Ffigurau fel yr Arglwydd Llandinam, Aelod Seneddol Rhyddfrydol ac yn ddiweddarach, Aelod o Dŷ’r Arglwyddi, y mae ei waith ar y defnydd o rym a chyfraith a threfn ryngwladol yn sylfaen i siarter y Cenhedloedd Unedig. Roedd yn allweddol yn y gwaith o sefydlu Teml Heddwch ac Iechyd Caerdydd y dymunai iddi fod yn gofeb i’r dynion dewr o bob cenedl a roddodd eu bywydau yn y rhyfel a oedd i fod i roi terfyn ar bob rhyfel. Dylem gadw’r traddodiad Cymreig hwnnw mewn cof wrth i ni nodi digwyddiadau’r canmlwyddiant eleni. Mae’n fwy perthnasol ac yn bwysicach fyth pan ystyriwn natur rhyfeloedd modern. Rydym yn cael y ddadl hon heddiw yn sgil cyhoeddi adroddiad Chilcot yr wythnos diwethaf. Un o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad hwnnw oedd bod y lluoedd arfog wedi cael eu hanfon i Irac heb gynllunio priodol a heb i’r offer angenrheidiol fod ar gael iddynt. Mae nifer yn y lluoedd arfog a theuluoedd y rhai a fu farw yn gweld hyn fel brad, ac yn gywir felly. Canfu’r adroddiad hefyd nad oedd pob llwybr wedi cael ei ddihysbyddu i geisio osgoi rhyfel yn y lle cyntaf.
Mae natur rhyfel wedi newid, wrth gwrs, ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi honni bod gwrthdaro arfog modern yn lladd ac yn anafu mwy o blant na milwyr. Er bod dadlau ynghylch yr union ystadegau, mae’n wir fod marwolaethau sifil yn ystod rhyfeloedd wedi codi’n fras o 5 y cant ar droad yr ugeinfed ganrif i 15 y cant yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, i 65 y cant erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac i fwy na 90 y cant mewn rhyfeloedd yn y 1990au. Pan fyddwn yn dewis ymladd, rydym yn dewis cymryd rhan mewn rhyfel a fydd yn brifo’r rhai nad ydynt yn rhan ohoni, ac rydym yn gwneud llawer iawn mwy yn ddigartref.
Wrth gwrs, ni ddylai cofio fod yn ddathliad ond yn hytrach, yn fyfyrdod ar y rhai sydd wedi colli eu bywydau ac ar sut y gallwn weithio i atal gwrthdaro a cholli bywyd yn y dyfodol. I’r rhai sy’n dychwelyd o ryfeloedd, y peth lleiaf un y dylai’r gymdeithas ei wneud yw sicrhau eu bod yn cael gofal priodol. Diolch yn fawr iawn.