Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Ond ceir cymaint o achosion pan fo pobl sy’n teimlo nad ydynt wedi cael yr hyn yr oeddent ei angen o’r gwasanaeth iechyd yn honni wedyn mai’r rheswm am y ddarpariaeth honno oedd, neu’n hytrach, mai’r rheswm nad oedd y rhai yn y gwasanaeth iechyd yn deall eu hanghenion, oedd nad oeddent wedi nodi eu bod yn gyn-filwyr y lluoedd arfog ac yn syml, nad oedd eu statws wedi ei gydnabod neu ei gofnodi gan y staff a oedd yn ymdrin â hwy.
Felly, mae fy amser ar ben. Hoffwn gymeradwyo’r cynnig hwn i’r tŷ ac rwy’n gobeithio y bydd yn pasio heb ei ddiwygio.