Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Mae’r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl Plaid Cymru, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 14 o blaid. Roedd 10 yn ymatal a 26 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig yn methu.