Part of QNR – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2016.
Mae cynhyrchion heb gluten yn rhan hanfodol o’r driniaeth glinigol ar gyfer clefyd coeliac. Cyhoeddwyd canllawiau rhagnodi cenedlaethol yn 2013 i helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i reoli cleifion sydd â chlefyd coeliac. Mae Coeliac UK wedi cefnogi datblygiad y canllawiau hyn, gan gynnwys y fersiwn ddiwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016.