<p>Yr Argyfwng Meddygon Teulu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:30, 13 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond, fel y mae’n gwybod, ni wna geiriau teg hau’r tir, ac, i bobl Dwyfor Meirionnydd, nid wyf yn meddwl y byddan nhw’n cael llawer o gysur o’r hyn a ddywedodd. Fel y mae’n gwybod, cyhoeddodd meddygfa ym Mhorthmadog yn ddiweddar, a oedd yn gwasanaethu 7,500 o bobl, mai dim ond rhai sy’n sâl iawn y byddai'n eu gweld. Ym Mlaenau Ffestiniog, mae meddygfa â phedwar meddyg wedi ei lleihau i un erbyn hyn, â llond llaw o staff locwm, ac, yn aml, does neb ar gael. Mae dros hanner y meddygon teulu yn Nwyfor dros 55 oed. Onid yw'n bryd i'r Llywodraeth roi trefn ar bethau a gwneud y gwasanaeth iechyd yn addas i bobl Cymru yn ardal Dwyfor Meirionnydd?