Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 13 Medi 2016.
Nid wyf yn credu mai syniad Plaid Cymru yn gyfan gwbl oedd yr egwyddor o gadw ein diwydiant dur. Mae'r mater o waith pŵer yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei drafod ers blynyddoedd gyda Tata, ymhell cyn yr hyn a ddigwyddodd ddechrau'r flwyddyn hon, a dweud y gwir. Yr hyn y gallaf ei ddweud—ac mae cyfyngiad ar yr hyn y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd, gan fod trafodaethau’n parhau—yw bod cynnydd da wedi ei wneud, yn ein barn ni, fel Llywodraeth, ar geisio darparu llwyfan ar gyfer dyfodol hirdymor ein diwydiant dur. Ond mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, bod y ddau fater hynny o ynni a phensiynau yn dal i fod heb eu datrys ar lefel Llywodraeth y DU.