Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 13 Medi 2016.
Yn sicr, ac rwyf innau, wrth gwrs, wedi bod ym mhob un o'r pedwar safle. Roedd Shotton yn safle proffidiol erioed, ond fel y dywedwyd wrthyf yn Shotton, byddai'n anodd iawn i Shotton weithredu heb y dur o Bort Talbot gan y byddai'n cymryd tua chwe mis i gael gafael ar y dur o rywle arall pe na byddai Port Talbot yno, gan arwain at sgil effaith amlwg o ran colli cwsmeriaid. Felly, mae pob un o'n pedwar gwaith dur wedi eu hintegreiddio â'i gilydd. Mae'n hynod bwysig, felly, eu bod i gyd yn sefyll gyda'i gilydd ac yn ffynnu.