Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 13 Medi 2016.
Brif Weinidog, mae nifer ohonom ni ar y meinciau hyn hefyd yn aelodau o'r Blaid Gydweithredol, a threuliasom ran o'r penwythnos yn trafod swyddogaeth mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yn economi Cymru. A ydych chi’n cytuno y byddai'n ganlyniad cadarnhaol i weld cwmnïau dielw, mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol yn rhan annatod o’r ddarpariaeth o wahanol agweddau ar fetro de Cymru?