Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 13 Medi 2016.
Mae'n wir i ddweud bod y galw wedi bod yn fwy na’r cyflenwad ers blynyddoedd lawer, yn enwedig tai fforddiadwy ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i’r tai hynny fynd lle mae eu hangen—ni ellir eu rhoi lle mae'r galw yn isel; mae'n rhaid iddynt fynd lle mae'r galw ar ei uchaf. Maen nhw’n benderfyniadau anodd iawn i awdurdodau lleol o ran sut y maen nhw’n bodloni’r galw hwnnw yn lleol o ran tai ac maen nhw'n ddadleuol weithiau, ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o dai ar gael ar gyfer y bobl sydd eu hangen.