<p>Tai Newydd yng Nghaerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 13 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 13 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Nac ydw, dydw i ddim. Rwy’n meddwl bod rhaid cael proses o archwilio sy'n gadarn. Mae Caerdydd yn ddinas sy'n tyfu; mae ei phoblogaeth wedi tyfu’n aruthrol dros y 30 mlynedd diwethaf, ac nid mater i Gaerdydd yn unig yw sut yr ydych chi’n ymdrin â’r galw hwnnw, mae'n fater i’r holl awdurdodau o amgylch Caerdydd, gan ein bod yn gwybod y bydd y galw hwnnw yno y tu allan i ffiniau'r ddinas hefyd. Ond, nid ydym ni byth yn mynd i gael i sefyllfa lle nad ydym yn adeiladu unrhyw dai, oherwydd byddai hynny'n golygu nad yw’r galw’n cael ei fodloni. Felly, i awdurdodau lleol, mae’n rhaid iddyn nhw lunio cynllun datblygu lleol, cyflwyno’r dystiolaeth ar gyfer eu cynlluniau a chael arolygydd cynllunio i brofi’r cynlluniau hynny. Rwy'n credu bod honno'n system gadarn i sicrhau bod CDLl wedi cael ei brofi mor drwyadl a thrylwyr â phosibl yn y dyfodol.