Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 13 Medi 2016.
Mae'n anodd, wrth gwrs, tynnu llinell bendant, o ystyried natur masnachfraint Cymru a'r gororau. Yr hyn na fyddwn yn cytuno ag ef yw un awgrym a ddaeth gan yr Adran Drafnidiaeth y dylai unrhyw wasanaeth sy'n terfynu yn Lloegr gael ei redeg o Loegr. Byddai hynny'n golygu’n llythrennol na fyddai unrhyw wasanaeth sy’n rhedeg ar draws unrhyw le yng ngogledd Cymru, ac eithrio rheilffordd Dyffryn Conwy, yn cael ei rheoli o Gymru o gwbl. Yr un fath, yn union yr un fath, ar gyfer rheilffordd canolbarth Cymru, rheilffordd Calon Cymru, llawer o wasanaethau arfordirol y Cambrian, yn ogystal, yn ogystal â gwasanaethau rhyng-ddinesig a llawer o'r gwasanaethau sy'n rhedeg i Fanceinion ac sy’n rhedeg, ar hyn o bryd, y tu hwnt i'r ffin. Byddai hynny'n gwbl annerbyniol. Felly, er ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod gwasanaeth Cymru a'r gororau, gyda'i fasnachfraint, yn cael ei redeg o Gymru, rydym ni’n credu y gallwn ni ddarparu gwasanaeth yr un mor dda i bobl sy'n byw yn Lloegr hefyd.