Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 13 Medi 2016.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Dylwn ddweud ein bod wedi derbyn sicrwydd gan Ford—mae’n rhaid i mi bwysleisio ein bod wedi cael sicrwydd—na fydd unrhyw warged o lafur yn y tymor byr. Felly, mae’r swyddi hynny yn y fan yna—y 1,850—yn ddiogel ac yn saff yn y tymor byr. Ond, fel yr wyf wedi ceisio ei bwysleisio wrth yr Aelodau, rwyf yn dymuno gweld y ffatri wedi ei sicrhau ar gyfer y tymor hir, ac nid dim ond y 1,850 o bobl sy'n gweithio yno ar hyn o bryd, ond ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac, yn wir, gweithlu mwy o faint, a fyddai'n gallu datblygu cenhedlaeth newydd o injans.
O ran fy ymweliad arfaethedig â Detroit, mae'n wir mai Ford Europe yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau o ran y gwaith o ddatblygu injans sy'n cael eu cynhyrchu ar y cyfandir, ac o fewn cyfandir Ewrop. Er hynny, ni welaf unrhyw niwed mewn dylanwadu ar Ford ar lefel y pencadlys, o ran y penderfyniad hwn ac unrhyw rai eraill. Felly, rwyf yn awyddus i gyfarfod â nid yn unig Ford Ewrop, ond hefyd Ford yn Detroit, i drafod rhan Cymru yn nheulu Ford. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud y byddwn yn cyfarfod—fi a'r Prif Weinidog—yn yr wythnosau nesaf gyda phennaeth uned gweithgynhyrchu pwerwaith Ford Ewrop. Ein bwriad yw trafod gydag ef nid yn unig sut y gellir ysgogi’r galw am yr injan Dragon newydd —gan Ford a gan y farchnad—ond hefyd sut y gallwn ddylanwadu, sut y gallwn helpu a sut y gallwn gynorthwyo mewn technolegau newydd y mae Ford yn dymuno eu datblygu nid yn unig yma, ond ledled Ewrop, neu yn wir, fel y dywedais wrth ateb un o'r cwestiynau cynharach, ym mhob rhan o’r byd.