Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 13 Medi 2016.
Rwyf wedi gwneud tri newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y trefniadau pontio Ewropeaidd ar ôl y datganiad hwn. Yn dilyn hynny, bydd datganiad deddfwriaethol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), a datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir yng nghyhoeddiad y datganiad busnes sydd ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.