Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 13 Medi 2016.
Credaf fod Andrew RT Davies yn ymwybodol iawn o'r ffaith mai Cyngor Bro Morgannwg sy'n gyfrifol am reoli prosiect Five Mile Lane. Ac rwy’n falch, unwaith eto, ein bod yn cael y cyfle i groesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn natblygiad hollbwysig Five Mile Lane—ffordd hollbwysig, fel y gwyddom, yn yr etholaeth. Rwy’n tybio, yn cwestiynu ac yn annog yr Aelod i drafod hyn â Chyngor Bro Morgannwg. Rwy'n siŵr y bydd yn dymuno cyfarfod â chi i ddweud wrthych am gynlluniau’r prosiect, oherwydd y nhw sy’n gyfrifol. Wrth gwrs, mae croeso i chi gysylltu â mi ag unrhyw dystiolaeth yr hoffech ei chyflwyno o gwestiynau a ofynnwyd i'r Llywodraeth, ond mae'n fater o wneud yn siŵr eich bod yn deall pwy sy'n gyfrifol am beth o ran rheoli prosiectau yn strategol, fel yr ydym ni, gan sicrhau bod yr arian ar gael ar eu cyfer.