Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 13 Medi 2016.
Mae nifer o gwestiynau yno gan arweinydd yr wrthblaid. Ie, fy ngalwad i oedd y dylai'r BIC gyfarfod ymlaen llaw—galwais am hyn cyn y refferendwm ei hun, pan gyfarfu'r BIC yn Glasgow, y dylem gynnal BIC brys cyn gynted ag y bo modd, cyn gynted ag a oedd yn ymarferol bosibl, ar ôl canlyniad y refferendwm, a dyna'n union a ddigwyddodd. Mae gwahanol Lywodraethau mewn sefyllfaoedd gwahanol. Mae Ynys Manaw, er enghraifft, mewn sefyllfa lle mae ganddynt undeb tollau gyda’r DU, a, thrwy hynny, undeb tollau gyda'r UE. Byddant yn colli yr undeb tollau hwnnw gyda'r UE, ond nid ydynt yn gallu trafod yn uniongyrchol gyda'r UE, felly mae'n golygu eu bod yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU, o bosibl, i drafod cytundeb gwahanol ar ei chyfer o'i gymharu â'r DU. Dyna un cymhlethdod a nodwyd ar yr adeg honno.
O ran y grŵp cynghori, mae cael y llythyrau gwahodd allan a'r bobl yn eu lle yn ystod mis Awst yn anodd—mae pobl i ffwrdd. Ond bydd y grŵp ei hun yn cyfarfod, fel y dywedais, y mis hwn. Rwy'n hyderus bod gennym y bobl iawn yn eu lle. Nid yr un bobl â’r rhai sy'n ymwneud â Bil Cymru ydynt, mae llawer o’r rhai hynny yn gyfreithwyr. Mae gennym nifer o staff uwch sydd â phrofiad o weithio ym Mrwsel, ac mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi cael y dasg o sicrhau bod gennym dîm cadarn a phrofiadol yn eu lle.
Mae'r un her yn wynebu Llywodraeth y DU. Nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw brofiad o drafod pan ddaw i gytundebau masnach rydd neu faterion trafod fel hyn gyda'r UE. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun yn chwilio am bobl a all ddatblygu’r arbenigedd hwn yn y dyfodol.
O ran y gwerth y bu cronfeydd yr UE i ni: yn fras, cyfanswm o £650 miliwn y flwyddyn. Rydym yn gwybod bod cymorthdaliadau ffermio eu hunain yn £260 miliwn. Nawr, gellir dadlau, am wn i, y byddai’r cyllid hwnnw wedi lleihau yn y dyfodol pe na fyddem yn gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gronfeydd strwythurol, ond, serch hynny, rydym yn colli swm sylweddol o arian. Os edrychwn ar gymorthdaliadau ffermio, nid yw cymorthdaliadau ffermio yn dod dan fformiwla Barnett. Y canlyniad gwaethaf y gallem ei ddychmygu ar gyfer Cymru byddai i gymorthdaliadau ffermio gael eu talu ar sail Barnett. Byddai hynny'n doriad sylweddol yn y swm o arian a oedd ar gael i ffermwyr.
Materion fel ffermio a physgodfeydd sy'n dangos pam y mae angen agwedd wahanol tuag at bensaernïaeth gyfansoddiadol y DU. Mae angen cytuno, er enghraifft, ar gyfundrefnau iechyd anifeiliaid. Ni allwch gael pedair gwahanol gyfundrefn iechyd anifeiliaid. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Mae angen cytuno ar hynny. Mae angen cytuno ar sut y gallai cymorthdaliadau ffermio weithio ledled y DU. A oes sail ar gyfer nifer penodol o reolau cyffredin er bod y systemau yn wahanol iawn ledled y DU? Pan ddaw i bysgodfeydd, a fyddai dull cyffredin o reoli pysgodfeydd? Mae hynny i gyd wedi’i ddatganoli. Ac wrth gwrs, mae’r mater sylfaenol, sef na ddylai cymhwysedd yr UE, o dan unrhyw amgylchiadau, mewn maes sydd wedi’i ddatganoli, fynd yn y pen draw at Lywodraeth y DU. Dylai drosglwyddo yn syth at y Llywodraethau datganoledig. Rydym wedi gwneud y pwynt hwnnw yn glir iawn, iawn.
Mae Llywodraeth yr Alban yn yr un sefyllfa ag yr ydym ni. Hyd nes y byddwn yn gwybod safbwynt y DU mae'n anodd rhoi eglurder llwyr ar y ffordd ymlaen. Ond mae hi yn gofyn y cwestiwn ‘Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mynediad at y farchnad sengl ac aelodaeth o’r farchnad sengl?’ Yn ymarferol, nid wyf yn siŵr bod llawer o wahaniaeth, ond mae aelodaeth o’r farchnad sengl yn awgrymu talu i mewn iddo. Mae'n awgrymu bod yn rhwym i reolau’r farchnad sengl a bod yn rhwym gan gyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd. Dyna’r model Ardal Economaidd Ewropeaidd, ond mae hynny hefyd yn cynnwys symudiad rhydd o bobl, ac fe fydd hi’n gwybod, gystal â fi, bod hwnnw wedi bod yn fater arbennig o ddadleuol yn ymgyrch y refferendwm ei hun. Ar hyn o bryd, mewn theori, mae'n cyfeirio at gytundeb yn arddull masnach rydd, ond eto ni chaiff y pethau hyn eu gwneud o fewn dwy flynedd. Mae gan Canada gytundeb gyda'r UE sy'n rhoi mynediad—mynediad o bron i 100 y cant: 98 y cant o fynediad—at nwyddau a gwasanaethau o’r farchnad Ewropeaidd. Nid yw hi’n rhwym i gyfarwyddebau Ewrop. Nid yw hi’n rhwym i ddyfarniadau Llys Ewrop, ond, wrth gwrs, fel unrhyw un sy'n dymuno allforio i'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhwym i reolau'r Undeb Ewropeaidd os yw'n dymuno allforio yno. Nid oes modd osgoi hynny. Felly, i mi, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos mai’r model cytundeb masnach rydd, oherwydd mater y symudiad rhydd o bobl, yw'r un a allai darparu ffordd ymlaen, er nad yw hynny'n hawdd ei drafod. O ystyried y ffaith mai ychydig iawn o amser sydd i wneud hyn, ac nad oes gan y DU yr arbenigedd, mae'n haws mewn theori nag y mae yn ymarferol. O dan yr amgylchiadau hynny mae’n rhaid i ni wedyn ystyried materion megis a yw model Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop yn fwy priodol i ni yn hytrach na'r model Ardal Economaidd Ewropeaidd, yr wyf yn amau y byddai’n groes i farn llawer o bleidleiswyr yng Nghymru.
O ran yr hyn y mae'n ei olygu i Gymru a'i pherthynas â Llywodraethau eraill yn y DU, yr wyf wedi rhoi’r enghreifftiau ffermio a physgodfeydd, lle y mae angen pensaernïaeth newydd, ond, ar ddiwedd y dydd, byddwn ar ein colled o oddeutu £650 miliwn. Mae'r arian hwnnw yn eistedd gyda'r Trysorlys. Nid yw'r Trysorlys yn adnabyddus am ei haelioni cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Maent wedi gwrthod diwygio fformiwla Barnett ers 37 mlynedd, ac rydym yn gwybod nad yw hwnnw'n gwneud unrhyw ffafrau â Chymru. Rwy’n poeni am ddau beth: yn gyntaf, y byddant yn ceisio rhoi swm o arian i ni, er enghraifft ar gyfer cymorthdaliadau ffermio, sy'n adlewyrchu Barnett—nid yw hynny’n ddigon da—a hefyd y gallent geisio ymyrryd yn y ffordd y mae cronfeydd yn cael eu gwario yng Nghymru yn y dyfodol, ac ni fyddai’r naill na'r llall o'r rhain yn dderbyniol. Pam ei bod yn dal yn wir yn y DU, er enghraifft, mai’r Trysorlys yw’r barnwr a’r rheithgor pan fydd anghydfod ariannol rhwng gweinyddiaeth ddatganoledig a Llywodraeth y DU? Mae'r broses datrys anghydfod—. Os oes anghydfod rhyngom ni a'r Trysorlys, y broses o ddatrys hwnnw yn y pen draw yw bod y Trysorlys yn gwneud y penderfyniad. Nawr, mae gan Awstralia gomisiwn grantiau, sy'n datrys y broblem hon. Mae angen inni edrych ar ffyrdd o greu mwy o degwch a chonsensws pan ddaw i ariannu cenhedloedd cyfansoddol y DU ac nid ‘beth bynnag y mae’r Trysorlys yn ei ddweud sy’n cael ei weithredu’. Mae’n rhaid i hynny gael ei ddileu yn y dyfodol—ac mae hyn yn arbennig o bwysig, wrth gwrs, gyda Brexit.
O fy safbwynt i, rwy'n fwy na hapus â'r tîm gwasanaeth sifil sydd wedi ei sefydlu, y bensaernïaeth sydd wedi ei sefydlu, a hefyd y safbwyntiau yr ydym eisoes wedi cyflwyno am yr hyn sy’n hynod bwysig i Gymru mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol. Ond mae'n rhaid i ni gael dealltwriaeth yn awr ar safbwynt Llywodraeth y DU. A yw Llywodraeth y DU yn ddibryder ynghylch tariffau, fel y mae David Davis? Dywedodd nad oedd ots am y tariffau oherwydd y byddai £2 biliwn yn cael ei godi mewn trethi—a delir gan y defnyddiwr wrth gwrs, oherwydd y defnyddiwr sy'n talu'r tariff, nid y busnes—ac nid oedd yn ymddangos yn arbennig o bryderus am yr hyn y byddai hynny'n ei olygu. Mae rhai, ar begwn eithaf y maes economeg, sydd o’r farn na ddylai fod gennym unrhyw rwystrau tariffau o gwbl, ni waeth beth y mae unrhyw farchnad arall yn ei wneud, ond eto, nid wyf yn credu y byddai’r rhan fwyaf o'n pobl ni yn ffafrio hynny.
Felly mae'r rhain i gyd yn faterion y bydd angen eu harchwilio yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ond mae'n amlwg i mi, cyn y Nadolig, bod angen i ni gael dealltwriaeth gan Lywodraeth y DU ar ei safbwynt ar fater y cyllido, ac yn enwedig ar fater y mynediad i’r farchnad. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol i ni—cewch ei alw’n aelodaeth neu’n fynediad—yw bod ein busnesau yn gallu gwerthu eu nwyddau a'u gwasanaethau yn rhydd, heb dariffau, ym marchnad sengl Ewrop. Dyna, i ni, yn bendant yw hanfod y peth.