8. 6. Dadl ar y Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2016-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 13 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:49, 13 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Mae camddefnyddio sylweddau yn fater iechyd pwysig sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Roedd adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru 'Gwneud Gwahaniaeth' a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf eleni yn dangos maint problem camddefnyddio sylweddau, sy'n dangos yr heriau parhaus sy'n ein hwynebu.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y bygythiad y mae camddefnyddio alcohol yn ei beri i iechyd cyhoeddus yng Nghymru; mae’n un o brif achosion marwolaethau a salwch ac mae’n costio llawer i'r GIG, i gymdeithas ac i'r economi. Er enghraifft, mae alcohol yn gysylltiedig â mwy na 6,000 o achosion o drais domestig bob blwyddyn. Yn ogystal â phryderon cynyddol am effaith camddefnyddio alcohol, mae'r newidiadau cyflym i dirwedd camddefnyddio cyffuriau’n cyflwyno heriau newydd i wneuthurwyr polisi, comisiynwyr, ac asiantaethau triniaeth.

Fel Llywodraeth, rydym yn buddsoddi bron £50 miliwn y flwyddyn i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', a gyhoeddwyd yn 2008. Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn y strategaeth yn seiliedig ar leihau niwed, sy'n cydnabod bod dibyniaeth yn fater iechyd a gofal, yn hytrach nag un sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol yn unig. Mae ein strategaeth gyffredinol wedi'i hadeiladu o amgylch pedwar nod allweddol: atal niwed, cymorth i gamddefnyddwyr sylweddau, cefnogi ac amddiffyn teuluoedd, a mynd i'r afael ag argaeledd sylweddau ac amddiffyn unigolion a chymunedau drwy weithgarwch gorfodi. Ein nod cyffredinol yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau er mwyn helpu i wneud dewisiadau doeth a gwybod ble y gallant ddod o hyd i wybodaeth, help a chymorth, os oes angen.

Ers inni lansio ein strategaeth, rydym wedi gweld gwelliannau parhaus mewn amseroedd aros am driniaeth cyffuriau ac alcohol a chanlyniadau eraill i’r grŵp hwn o bobl sy'n agored i niwed ac yn anodd eu cyrraedd, ac mae'n hanfodol ein bod yn cynnal y momentwm hwn. Ni allwn wneud y cynnydd yr hoffem ei wneud heb gefnogaeth ac arbenigedd pobl eraill. Felly, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gref â’r trydydd sector, y maes iechyd, llywodraeth leol a’r asiantaethau cyfiawnder troseddol. Mae'r cynllun cyflawni diweddaraf yn nodi'n fanwl y camau penodol a gymerir dros y ddwy i dair blynedd nesaf i ategu ein strategaeth i wneud y cynnydd pellach yr hoffem ei wneud ar yr agenda heriol hon sy'n symud yn gyflym.

Mae hwn yn gynllun sy’n rhoi mwy o bwyslais ar atal, ymdrin â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a chydnabod y rhan y gall gwasanaethau gofal sylfaenol ehangach ei chwarae i ddod o hyd i unigolion sy'n ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ac ymateb iddynt. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i weithredu’n llwyddiannus, ac mae ein saith bwrdd cynllunio ardal yn allweddol i ddatblygu'r gwaith hwn drwy barhau i gomisiynu a darparu’r ystod o wasanaethau yn eu hardaloedd lleol mewn cysylltiad ag ymdrin â chamddefnyddio sylweddau.

Mae'r cynllun hwn yn parhau i adeiladu ar yr ystod o fentrau codi ymwybyddiaeth yr ydym wedi'u sefydlu, fel DAN 24/7, ein llinell gymorth camddefnyddio sylweddau dwyieithog. Rydym hefyd wedi cyflwyno rhaglen hyfforddi genedlaethol ar sylweddau seicoweithredol newydd ledled Cymru. Bydd hon yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad ag unigolion sy'n defnyddio’r sylweddau neu'n ystyried eu defnyddio yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddarparu'r wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth angenrheidiol.

Mae ymyrryd yn gynnar ac addysg yn hanfodol yn yr agenda hon, a thrwy ein rhaglen graidd cyswllt ysgolion Cymru gyfan, rydym yn gweithio gyda phedwar heddlu Cymru i addysgu disgyblion am ystod o faterion personol a chymdeithasol, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig ac ecsbloetio rhywiol. Cynhelir y rhaglen ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd ledled Cymru ac mae penaethiaid ac eraill mewn ardaloedd lleol yn falch ohoni.

Mae datblygiadau diweddar yn awgrymu pryder cynyddol am y defnydd o gyffuriau sy’n gwella delwedd a pherfformiad. Felly, mae addysg ynglŷn â goblygiadau defnyddio’r cyffuriau hyn hefyd yn bwysig, yn enwedig mewn cysylltiad â chwaraeon. Byddwn yn cynnal y cylch trafod amlasiantaethol cyntaf i dynnu sylw at broblem camddefnyddio cyffuriau mewn chwaraeon a’r materion cymdeithasol ehangach cysylltiedig cyn bo hir. Bydd hyn hefyd yn cysylltu â'r gwaith ehangach y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud, sydd wedi ei anelu at ddarparu tystiolaeth o natur a graddfa camddefnyddio steroidau a chyffuriau sy'n gwella delwedd a pherfformiad, a’r niwed sy'n gysylltiedig â hynny.

Ar ôl ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid yn ystod ei ddatblygiad, ymgynghorwyd yn ffurfiol ar ein cynllun cyflawni rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni. Cafwyd pedwar deg naw o ymatebion gan ystod eang o sefydliadau, ac mae'r rhain wedi llywio'r cynllun terfynol a welwch ger eich bron heddiw. Fel y gwelir yn y cynllun, rydym yn glir ynghylch y cyfraniad y gall ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ei wneud i gyflawni'r nodau a amlinellir yn y Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol, ac rydym wedi datblygu’r cynllun diweddaraf hwn yn unol â'r ddeddfwriaeth newydd arloesol honno. Mae canlyniadau lefel uchel camddefnyddio sylweddau wedi cael eu mapio yn erbyn y nodau perthnasol fel bod y cysylltiadau’n glir ac yn eglur.

Mae'r cynllun yn seiliedig ar egwyddorion iechyd a gofal darbodus, ac mae hwn yn faes lle gellir dangos enghreifftiau da o ofal iechyd darbodus ar waith. Rwy’n ddiolchgar i'r Aelodau hynny sydd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn hyn, a gynhaliodd ddau ymchwiliad ar gamddefnyddio sylweddau, ac mae'r cynllun newydd yn ymgorffori holl argymhellion yr ymchwiliadau hynny.

O ganlyniad i'r dull partneriaeth cydweithredol a chynhwysol a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu'r cynllun, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol iawn. Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr yn cytuno â'r canlyniadau a ddisgrifir dan bob un o'n hamcanion. Roedd nifer o ymatebion yn amlygu meysydd y gellid rhoi sylw iddynt er mwyn cryfhau'r cynllun cyflawni ymhellach, ac un enghraifft o hyn yw'r angen i sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i bob defnyddiwr gwasanaeth posibl, gan gynnwys y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. O ran lleihau niwed, teimlai rhai bod angen sicrhau y gwneir rhagor o waith i hyfforddi pob gweithiwr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd i adnabod arwyddion o broblemau camddefnyddio sylweddau. Hefyd, roedd rhai o’r farn bod ymdrin â'r newid diwylliannol sydd ei angen i leihau yfed niweidiol yn flaenoriaeth. Nododd ymatebwyr hefyd fod angen mwy o weithredu ar atal gorddos o gyffuriau yn y lle cyntaf. Rydym wedi cyflwyno ein rhaglen naloxone, ond teimlwyd y dylid hyrwyddo dulliau lleihau niwed eraill hefyd, fel helpu pobl sy'n camddefnyddio sylweddau i ddeall y risgiau, arwyddion gorddos, peryglon defnyddio cyffuriau lluosog, ac i annog defnyddio dulliau llai peryglus o gymryd cyffuriau. Cafwyd yr awgrymiadau defnyddiol hyn ac eraill yn ystod y broses ymgynghori, ac rydym wedi eu hymgorffori er mwyn cryfhau ein cynllun ymhellach.

Felly, i gloi, rwy’n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr ac rwy'n cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Paul Davies. Ar y gwelliant cyntaf, rwy’n cytuno bod rhaid inni gydnabod y problemau sy'n gynhenid wrth ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, ac ystyried cymhlethdodau cefnogi rhywun sy’n wynebu’r materion hyn. Dangosir hyn gan y ffaith nad yw pob unigolyn o reidrwydd yn rhydd o gyffuriau neu alcohol ar ddiwedd eu triniaeth, oherwydd, i lawer, bydd yn frwydr gydol oes.

O ran yr ail welliant, byddwn yn ystyried y data diweddaraf. Rydym yn defnyddio ac yn parhau i ddefnyddio'r data o'r gronfa ddata genedlaethol ar gamddefnyddio sylweddau i weithio gyda byrddau cynllunio ardal i roi cynlluniau ar waith i ymdrin ag unrhyw bryderon neu feysydd datblygu. Felly, rydym yn falch o gefnogi'r gwelliant hwn hefyd.

Felly, edrychaf ymlaen at gyfraniadau yn y ddadl. Diolch yn fawr iawn.