Part of the debate – Senedd Cymru ar 13 Medi 2016.
Gwelliant 1—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y problemau cynhenid o ran darparu gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, o gofio bod yr ystadegau diweddaraf gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn dangos mai dim ond 13 y cant o unigolion a ystyriwyd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o bob un a gafodd eu cyfeirio i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.